Ar-lein, Mae'n arbed amser
Agor marchnad dan do Newydd, fywiog a chymunedol Merthyr Tudful yn swyddogol
- Categorïau : Press Release
- 11 Maw 2026
Agorwyd marchnad dan do newydd Merthyr Tudful yn swyddogol heddiw gan Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol.
Agorodd y farchnad ddisgwyliedig ei drysau ar gyfer masnach ym mis Rhagfyr 2025 - dim ond diwrnod ar ôl i'r hen farchnad gau - gan nodi dechrau cyfnod newydd gyda marchnad fodern, fywiog, gymunedol.
Mae'r ailddatblygiad gwerth £2.3 miliwn hwn wedi'i wneud yn bosibl drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol: "Mae'r farchnad newydd hon yn enghraifft wych o'r hyn y gall ein cyllid Trawsnewid Trefi ei gyflawni. Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn i'r prosiect hwn am ein bod yn credu yn nyfodol canol tref Merthyr Tudful a'r bobl sy'n dibynnu arno.
"Trwy adleoli a moderneiddio'r farchnad, rydym nid yn unig wedi diogelu 22 o fentrau a phob bywoliaeth y maent yn eu cynrychioli, ond hefyd wedi creu gofod cwbl hygyrch, croesawgar yng nghanol y gymuned. Dyma'r union fath o newid diriaethol, parhaol y mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi'i gynllunio i'w gyflawni - ac mae'n wych ei weld yn dod yn fyw yma ym Merthyr."
Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Yr hyn sy'n gwneud y farchnad newydd hon yn unigryw yw nid yn unig ei dyluniad ond ei phwrpas. Mae hon yn ganolfan gymunedol aml-ddefnydd, sy'n cynnig neuadd fasnachu fodern, cwrt bwyd pwrpasol, gofod adloniant cymunedol ac ardaloedd hyblyg ar gyfer gweithdai, perfformiadau a digwyddiadau. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adfywio, cefnogi busnesau lleol, creu mannau cymdeithasol ac adeiladu canol tref lle y mae pobl eisiau siopa, cyfarfod, ymlacio ac ymgysylltu.
"Mae tri ar ddeg o fasnachwyr o'r hen farchnad wedi ymuno â ni yn y bennod newydd gyffrous hon, ac rydym yn dathlu dyfodiad 10 menter Newydd ond nid ydym yn stopio yno. Bydd Cam 2 yn cyflwyno rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau gyda'r nos, sy'n dathlu pobl a straeon Merthyr Tudful trwy gelf, ffasiwn, ffilm, masnachu gyda'r nos a gweithgareddau diwylliannol sy'n arddangos ein creadigrwydd a'n treftadaeth.
"Diolch i Lywodraeth Cymru. Mae ei hymrwymiad i adfywio canol trefi yn cyd-fynd â gweledigaeth y Cyngor i greu lleoedd sy'n gynaliadwy, yn fyw, yn economaidd weithgar ac yn groesawgar."
Mae'r farchnad ar agor rhwng 9am a 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn.