Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhewi prisiau cinio ysgol ym Merthyr Tudful ar gyfer y flwyddyn gyfredol
- Categorïau : Press Release
- 26 Ebr 2021

Ni fydd pris cinio ysgol ym Merthyr Tudful yn codi yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Cytunodd cyfarfod o’r Cyngor Bwrdeistref Sirol llawn y dylid rhewi pris cinio ysgol ar gyfer 2021/22 am yr ail flwyddyn o’r bron.
Yn Ebrill 2019, cododd y pris 20c, i £2.30 mewn ysgolion cynradd ac i £2.70 mewn ysgolion uwchradd.
Clywodd aelodau i’r penderfyniad gael ei ystyried y llynedd yn sgil y pandemig a’r ymyriad i ddarpariaeth y gwasanaeth.
Ni ddarparwyd unrhyw brydau ysgol yn ystod tymor yr haf 2020 a chynigwyd bwydlen gyfyngedig yn ystod tymor yr hydref.
Dywedodd Sue Walker, y Prif Swyddog Dysgu: “Tra bod ysgolion yn setlo i dderbyn gwasanaethau mwy normal a’n bod ni’n monitro effaith unrhyw newidiadau ym mhrisiau’r darparwyr a hynny yn sgil Brexit a’r pandemig, ni fyddai’n iawn i ni ystyried codi’r prisiau.
“Cafodd ei gynnig a’i gytuno gan aelodau y dylai pris prydau ysgol, yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd barhau’r un fath a bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal fel rhan o’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.”