Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysgol o Ferthyr Tudful yn Creu Hanes wrth Gipio Gwobr Animeiddio Ddwy Flynedd yn Olynol
- Categorïau : Press Release
- 18 Meh 2026
Cymru yn Cipio Tair Gwobr yng Ngwobrau Into Film 2026
Mae Ysgol Gynradd Caedraw, Merthyr Tudful creu hanes yng Ngwobrau Into Film eleni wrth fod yr ysgol gyntaf erioed i ennill y wobr Animeiddiad Gorau 5 i 11 oed am ddwy flynedd yn olynol. Caedraw gipiodd yr un wobr am ffilm o’r enw Cae yr Arth yn 2025, ac eleni, dyma nhw’n dod i’r brig eto gyda The Letter, animeiddiad stop-motion am unigrwydd, dewrder a chefnogi ein gilydd.
Ar ben hyn, derbyniodd Ben Gregory o ganolfan gymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes, Gwynedd, y wobr Pencampwr Ffilm am ei ddegawd o waith yn gwneud ffilmiau drwy gyfrwng y Gymraeg gyda Chlwb Ffilm Dyffryn Nantlle, tra cafodd Araminta Stuart, 17 oed, o Gonwy, ei chydnabod yn y categori Sêr y Dyfodol. Cafodd Ysgol Gynradd Llanharan (Pontypridd) ac Ysgol Uwchradd Willows (Caerdydd) eu henwebu hefyd, ar gyfer y Ffilm Ddogfen Orau a'r Ffilm Orau 12-15 oed.
Cymeriadau Toy Story gyflwynodd y wobr i ddisgyblion Caedraw yn y seremoni fawreddog yn Leicester Square, Llundain. Seremoni sy’n gweld sêr y sector sgrin yn dod at ei gilydd i ddathlu gwaith pobl ifanc o ar draws y DU. Sêr fel Jason Isaacs, Hayley Atwell, Nick Frost, Jodie Whittaker, Peter Capaldi, Bella Ramsey, Blake Harrison, a mwy.
Dywedodd Alex McCabe, athrawes ddosbarth criw Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Caedraw: "Rydyn ni wrth ein bodd yn ennill y wobr hon eto eleni. Roedd gweld blwyddyn 5 yn ennill yn 2025 yn sbarun ac ysgogiad i flwyddyn 5 eleni i fynd amdani! Ry’n ni’n hynod o falch o bob un ohonyn nhw.
“Ysgol fach gynhwysol yw Caedraw, gyda chyfran uwch na'r gyfartaledd arferol o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, felly mae cael ein cydnabod ar lwyfan genedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol yn rhywbeth arbennig iawn. Mae'n brawf fod modd cyflawni a derbyn cydnabyddiaeth fel hyn pan fo dysgu drwy, ac am, ffilm yn cael ei integreiddio’n llawn ar draws y cwricwlwm.”
Dywedodd Non Stevens, Pennaeth Into Film Cymru: "Mae llwyddiant Caedraw yn rhywbeth arbennig. Dyma ysgol sydd yn edrych am gyfleoedd i ddefnyddio ffilm ar draws y cwricwlwm ac sy’n rhoi lle amlwg i ddysgu drwy ac am ffilm ar draws y chew maes dysgu a phrofiad.
"Mae archwilio, ymateb a chreu ffilm yn meithrin llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, ynghŷd â sgiliau bob dydd - fel cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau. Diolch i Ysgol Caerdraw am gefnogi athrawon i ddefnyddio ffilm ac am fanteisio ar gefnogaeth Into Film. Llongyfarchiadau mawr i bawb!"
Mae The Letter yn dilyn Cae, cymeriad sy'n teimlo'n unig ar ôl i'w fab adael am y brifysgol ac sy’n penderfynu ysgrifennu llythyr ato – ond nid dyma ddiwedd taith y llythyr! Wedi’i chreu gan fyfyrwyr dosbarth Blwyddyn 5, mae'r ffilm yn symud o ddu a gwyn i liw i adlewyrchu taith emosiynol y cymeriadau, gan ddefnyddio The Wizard of Oz yn ysbrydoliaeth i’r cyfan. Dyma brosiect a oedd yn cynnwys dros 1,500 o ddelweddau unigol ac a wnaeth roi’r cyfle i’r gwneuthurwyr ffilm ifanc fireinio eu sgiliau creadigol, adrodd stori a chyd-weithio.
Dywedodd Jaxson, disgybl naw oed o Gaedraw: "Pan glywon ni enw’r ysgol, ro’n i mewn sioc! Ry’n ni wedi gweithio mor, mor galed ar bob ffrâm ac mae'n teimlo'n wych gwybod fod pobl wedi mwynhau’r ffilm gymaint! Dw’i eisiau gwneud mwy o ffilmiau nawr!!”
Ar ben hyn, derbyniodd Ben Gregory y wobr Pencampwr Ffilm, am ei waith gyda Chlwb Ffilm Dyffryn Nantlle o ganolfan gymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes, Gwynedd. Mae Ben wedi helpu dros 100 o bobl ifanc i gynhyrchu 18 ffilm yn y Gymraeg ers 2003, gyda chyn-aelodau'n mynd ymlaen i yrfaoedd o fewn y byd ffilm a theledu.
Dywedodd Ben Gregory: "Pan glywais fy mod yn derbyn y wobr hon fe ges i sioc mawr, ond rhaid cyfaddef fy mod yn falch iawn o’r gydnabyddiaeth ar lefel mor bwysig. Ac eto, rhaid cofio mai gwobr pobl ifanc Dyffryn Nantlle yw’r wobr hon. Pobl ifanc cydwybodol sy’n gweithio’n ddi-flino ar eu ffilmiau ac sy’n mwynhau pob eiliad o fod yn greadigol. Fy rôl i yw rhoi cyfleoedd iddyn nhw feithrin eu sgiliau a’u talent a chael profiadau newydd.”
Cafodd Araminta Stuart, 17 oed, o Gonwy, ei chydnabod hefyd, yn y categori Sêr y Dyfodol ac fel rhan o’r dathliadau dangoswyd gwaith Araminta ar sgrin fawr yn Piccadilly Circus yn Llundain cyn y seremoni. Dyma wobr pwysig ac unigryw sy’n cefnogi talent ifanc wrth iddyn nhw edrych ar fynd ymlaen i weithio o fewn y sector sgrin.
Derbyniodd y Gwobrau eleni dros 400 o geisiadau o bob cwr o'r DU, gyda straeon yn amrywio o gomeddïau ysgafn i ddogfennau sy'n ysgogi'r meddwl. Mae'r themâu'n cynnwys bod yn ffoadur, diogelwch ar-lein, iechyd meddwl, anghenion dysgu ychwanegol, hunaniaeth, dylanwad AI, a llawer mwy.
Nawdd ein cyflogwyr o’r diwydiant sgrin sy’n gwneud yr holl beth yn bosib - Amazon MGM Studios; EON Productions; IMDb; Lucasfilm Ltd; Odeon; Paramount; Pinewood Studios; Shepperton Studios; Swatch; Universal Pictures; The Walt Disney Studios; Warner Bros Discovery; Working Title Films; 72 Films.
Cefnogir Into Film gan y BFI, drwy gyllid Achos Da y Loteri Genedlaethol.