Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful yn fuddugol mewn cystadleuaeth gwefan mwyaf hygyrch Cynghorau’r DU

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Chw 2023
Gold

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y brig unwaith eto'r mis hwn ym Mynegai Hygyrchedd Silktide ac yn cael ei chydnabod fel gwefan Cyngor mwyaf hygyrch y DU.

Mae Silktide yn llwyfan ar gyfer gwella a deall gwefannau mawr, sy’n gwerthuso hygyrchedd gwefannau ac yn rhoi sgôr yn seiliedig ar gydymffurfio gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys (WCAG); safon ryngwladol sy’n esbonio sut i wneud cynnwys gwefannau yn fwy hygyrch i bobl gydag anableddau.

Mae bar offer Recite Me yn ychwanegiad cadarnhaol i wefan y Cyngor, ac yn ei wneud yn fwy cynhwysol gan alluogi ymwelwyr i bersonoli'r cynnwys fel eu bod yn gallu defnyddio'r wefan yn y ffordd orau iddynt hwy. Mae hyn wedi cynyddu’r defnydd gan bobl gydag anghenion ychwanegol, a’r rhai sydd eisiau defnyddio iaith wahanol i Gymraeg neu Saesneg.

Dwedodd y Cynghorydd Gareth Richards, Eiriolwr Amrywiaeth a Chyfartaledd y Cyngor;
“Mae staff y Cyngor dan arweinyddiaeth y Grŵp Hygyrchedd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y Cyngor yn gwella hygyrchedd ei gwasanaethau ar- lein yn barhaus, gan anelu at arwain ym maes cynhwysiant digidol a sicrhau bod y cynnwys yn hawdd ei ddarllen ac yn ymateb i anghenion ein cymunedau.”

Mae pedwar rhan i’r Bar offer Recite Me, darllenwr sgrin, cyfieithu, steilio a darllen. Mae pob rhan yn gallu cefnogi pob math o anableddau ac yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau. Ers ei lansio ym mis Medi 2022, y rhan mwyaf poblogaidd yw’r darllenwr sgrin a chyfieithu. Mae’r ieithoedd sy’n gallu defnyddio’r darllenwr sgrin yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Pwyleg, Tyrceg a Rwsieg.

*Ar gyfer cyfieithiad Cymraeg gweler ein gwefan Gymraeg.

Dwedodd preswylydd o Ferthyr Tudful sy’n ddefnyddiwr cyson o’r wefan;
“Mae’r nodwedd darllen yn uchel yn ddefnyddiol iawn i mi glywed yr hyn sydd wedi ei hysgrifennu ar y wefan. Mae’r nodwedd bren mesur hefyd yn helpu torri lawr yr hyn rwy’n ei ddarllen er mwyn gwneud pethau yn gliriach.” 

Gallwch weld ganlyniadau Mynegai Silktide yma:
UK Councils - Silktide Index <https://index.silktide.com/category/council-uk>

Gallwch ddarllen mwy am ReciteMe yma;
Recite Me | Merthyr Tydfil County Borough Council

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni