Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful yn gwneud camau breision gyda Tony’s Taxis a’r Fflyd Werdd

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Mai 2022
Tony's electric taxi

Mae gyrrwr tacsi profiadol wedi dod y cyntaf yn y fwrdeistref sirol i lansio gwasanaeth cerbydau trydan.

Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd perchnogion eraill yn dilyn camau Anthony Brown sy’n rhedeg Tony’s Taxis and Minibus Hire ers 20 mlynedd, a chymryd mantais o fenter sydd ar gael i’w helpu.

Mae Cynllun ‘Fflyd Werdd’ y Cyngor sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn rhaglen profi cyn prynu sy’n galluogi gyrwyr tacsi i fenthyg cerbyd trydan, sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn am 30 diwrnod am ddim.

Mae dau gerbyd y gallant ei ddefnyddio, ac mae’r cyfnod yn cynnwys gwefru am ddim, yswiriant, trwyddedu'r cerbyd i gyd yn rhan o’r cynllun.

Mae Tony,wedi mentro yn barod ac wedi talu am ei gerbyd a dwedodd: “ Roeddwn yn gwybod ei bod yr adeg iawn I newid I gerbyd trydan. Gyda phrisiau disel yn cynyddu gymaint, roedd rhaid i mi feddwl am yr hir dymor.”

Mae e wrth ei fodd gyda’i gerbyd tawel, di fwg sy’n arbed arian. “ Roedd hwn yn benderfyniad cwbl synhwyrol, dyma ddyfodol moduro.”

Dwedodd Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd Paul Lewis: “ Mae’n ffantastig gweld un o’n gyrwyr tacsi yn defnyddio cerbyd trydan. Mae dyfodol moduro yma gyda cherbydau di garbon. Tony yw’r cyntaf ond bydd eraill yn siŵr o’i ddilyn.”

Mae Tony yn defnyddio dau bwynt gwefru yn yr orsaf fysiau sydd ar gael am ddim i yrwyr y Cynllun Fflyd Werdd. Gall gyrwyr tacsi preifat eu defnyddio a thalu wrth wneud.

Gall gyrwyr Cerbydau Hacni Trwyddedig gofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun Fflyd Werdd trwy www.electrictaxiswales.co.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni