Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cais Merthyr Tudful am statws dinesig ym mlwyddyn Jiwbilî Platinwm y Frenhines
- Categorïau : Press Release
- 08 Medi 2021

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi croesawu cynnig i gynnig cais am statws dinesig fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines y flwyddyn nesaf.
Nos Fercher, 8 Medi 2021, clywodd aelodau yng nghyfarfod y Cyngor llawn sut y byddai dyfod yn ddinas yn helpu i ddenu buddsoddiad mewnol, busnesau newydd a gweithwyr cyflogedig ȃ sgiliau, gan hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol ym Merthyr Tudful a’r ardal amgylchynol.
Cefnogir y cais hefyd gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol Peter Vaughan ac Uwch Siryf Morgannwg Ganol Jeff Edwards, sydd hefyd yn breswylwyr ym Merthyr, yn ogystal ag Aelod Seneddol Merthyr Tydfil a Rhymni, Gerald Jones.
Dywedodd yr ymchwilydd economaidd, Dr Jane Croad sy’n cydlynu’r cais, wrth y cynghorwyr, y byddai adnoddau niferus diwylliannol a photensial cyffrous Merthyr Tudful yn ganolog i’r cais.
Dylid dyfarnu statws dinesig fel cydnabyddiaeth o’i chyfraniad at ffyniant a diogelwch y DU a’r byd drwy ‘lo, dur a llawer o fywydau’, ychwanegodd.
Gyda’r gwelliannau enfawr a gafwyd i Ffordd Blaenau’r Cymoedd (A465), roedd Merthyr Tudful yn fan canolog rhwng Abertawe a Gorllewin Canolbarth Lloegr, a byddai statws dinesig yn ‘gwella cysylltiad a dyheadau trefi a phentrefi amgylchynol y cymoedd sy’n ymberthyn yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol yn nes at Ferthyr Tudful nag at unrhyw ddinasoedd yng Nghymru.’
Dywedodd Dr Croad y byddai dyfod yn ddinas yn rhoi’r un canfyddiad o ran statws economaidd a chymdeithasol i Ferthyr Tudful ag sydd gan ddinasoedd eraill yn y DU gan gymell pobl yn y fwrdeistref sirol ac o’i chwmpas i godi eu disgwyliadau a’u dyheadau ar gyfer y dref.
Erfyniodd Aelod Cabinet dros Adfywio y Cynghorydd Geraint Thomas ar breswylwyr lleol i ‘afael yn y cyfle ffantastig hwn i adeiladu ar lwyddiant Merthyr Tudful a chynlluniau am ddyfodol disglair.
“Yn y chwyldro technoleg, mae angen statws dinesig ar Ferthyr Tudful er mwyn llwyddo i gael yr ysgogiad i afael yng nghyfleoedd y symudiad newydd,” ychwanegodd.
Ceir 10 tref yng Nghymru a Lloegr sy’n cystadlu am statws dinesig – Merthyr Tudful a Wrecsam yw’r unig ddwy yng Nghymru.
Roedd rhai wedi cwestiynu a oedd Merthyr Tudful yn ddigon mawr i fod yn ddinas. Mae’r tabl yn dangos 12 dinas yn y DU sydd ȃ phoblogaeth is na Merthyr Tudful.
Dyfarnwyd statws dinesig i Lanelwy ȃ phoblogaeth is na 3,355 a Perth ȃ phoblogaeth o 46,970 yn 2012, sef blwyddyn Jiwbilî Aur y Frenhines. Felly mae Merthyr Tudful ȃ’i phoblogaeth o 59,100 yn sicr mewn sefyllfa gref i fod yn ddinas.
Dinas |
Poblogaeth |
Dyfarnu Statws Dinesig |
St. Albans |
82,146 |
1877 |
Lisburn |
76,613 |
Jiwbilî Aur y Frenhines 2002 |
Carlisle |
75,306 |
Canoloesol |
Henffordd |
60,415 |
Cadarnhawyd yn 2000 drwy Siarter Brenhinol |
Merthyr Tudful |
59,100 |
|
Caergaint |
54,880 |
Canoloesol |
Inverness |
48,201 |
2000 |
Caerhirfryn |
48,085 |
1937 |
Durham |
47,785 |
Canoloesol |
Perth |
46,970 |
Jiwbilî Aur y Frenhines 2012 |
Caerwynt |
45,184 |
AD833 |
Caersallog |
44,748 |
1227 |
Ripon |
16,363 |
Canoloesol |
Dinas Armagh |
14,749 |
1994 |
Wells |
10,536 |
Canoloesol |
Llanelwy |
3,355 |
Jiwbilî Aur y Frenhines 2012 |
Tyddewi |
1,408 |
1994 |
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Malcolm Colbran: “Byddai ennill y cais hwn yn cyflawni breuddwydion a dyheadau pobl Merthyr Tudful i fod yn ddinas Blaenau’r Cymoedd,”
“Byddai’n rhoi hwb enfawr i fusnesau a phobl. Mae angen i ni gyd gefnogi’r cais a dangos ein hundod o ran ein diben a’n hyder ym Merthyr Tudful.”
Yn groes i’r hyn a gred lawer, ers 1889 nid yw’n ofyniad bod gan ddinas eglwys gadeiriol. Ymhlith y gofynion mae cael hunaniaeth benodol, balchder dinesig, seilwaith diwylliannol, treftadaeth ddiddorol, hanes a thraddodiadau, cymuned fywiog a chroesawgar, hanes arloesedd, llywodraethiant a gweinyddiaeth gadarn, cysylltiadau ȃ’r Frenhiniaeth a phreswylwyr neu gymunedau nodedig eraill sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol a gydnabyddir yn helaeth i’r gymdeithas a’r seilwaith diwylliannol - ac mae Merthyr yn cyflawni’r meini prawf hyn yn gadarn.
Yn ystod ymgynghoriad sydd ar fin digwydd gofynnir i breswylwyr lleol gyflwyno eu safbwyntiau, gwybodaeth a phrofiad i helpu i ddangos sut mae Merthyr Tudful yn cyflawni’r holl feini prawf hyn.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton: “Rwyf mor falch bod fy nghyd gynghorwyr yn cytuno y dylem ni’n bendant afael yn y cyfle i gyflawni’r hyn a fyddai’n ganlyniad ffantastig i ni.
“Gwelodd Ferthyr Tudful werth miloedd o bunnoedd o adfywio dros y blynyddoedd diweddar. Mae gennym gyfnewidfa fysiau newydd anhygoel, golygfeydd a chyfleusterau chwaraeon sydd ymhlith y goreuon yn y DU, a chyfoeth o siopau a darparwyr llety a nifer cynyddol o dai bwyta a bariau. Pam na ddylem ni fod yn ddinas?
- Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau am statws dinesig Jiwbilî Platinwm y Frenhines erbyn 8 Rhagfyr 2021. Disgwylir i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn gynnar yn 2022.