Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful i groesawu gorymdaith Gŵyl Ddewi y Ffiwsilwyr Brenhinol

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Chw 2020
St David's Day parade

Cafodd Merthyr Tudful ei dewis eleni fel lleoliad ar gyfer gorymdaith flynyddol Gŵyl Ddewi 3ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol.

Bydd yr orymdaith filitaraidd drwy ganol y dref ddydd Sadwrn 29 Chwefror yn uchafbwynt i ddiwrnod cyffrous o ddathlu gan gynnwys stondinau bwydydd o thema Gymreig, a stondinau crefftau a rhoddion yn ogystal ag adloniant gan ddynwaredwyr Tom Jones a Shirley Bassey.

“Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn falch iawn ein bod wedi cael ein dethol i groesawu’r orymdaith a’n gobaith yw y bydd ein preswylwyr yn galw heibio i’w weld ac i fod yn rhan o’r dathliadau,” dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Barry.

“Bydd y digwyddiad mawreddog hwn yn nodi Dydd Gŵyl Dewi ac Ail-gadarnhau Rhyddid y Fwrdeistref Sirol, a gafodd ei gyflwyno i’r Gatrawd yn 2011.”

Bydd yr orymdaith, o dan arweiniad masgot y Gatrawd, Siencyn IV, yn gadael Llys Janice Rowlands/Sgwâr Janice Rowlands am 10.30am ac yn diweddu o flaen Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful ar gyfer Archwiliad y Gwarchodlu.

Bydd yno hefyd stondinau militaraidd, ac arddangosfeydd a gwybodaeth am y Lluoedd Arfog ar Sgwâr Penderyn drwy’r dydd.

Bydd Canolfan Siopa Santes Tudful a Chalon Fawr Merthyr Tudful / Rydyn Ni’n Caru Merthyr yn dechrau ar eu rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau dros dro ar gyfer 2020 gyda’u Ffair Gymreig boblogaidd.

Bydd stondinau ar gael yn cynnig amrywiaeth o nwyddau lleol gan gynnwys bwyd, crefftau a rhoddion â pherfformiadau gan ddynwaredwyr Tom a Shirley’n darparu cefndir cerddorol teilwng â rhai o’u caneuon mwyaf adnabyddus.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni