Ar-lein, Mae'n arbed amser

Merthyr Tudful i dderbyn buddsoddiad o £20 miliwn drwy'r Cynllun Cymdogaethau

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Maw 2025
Screenshot 2025-03-07 at 14.48.49

Cyhoeddodd Alex Norris AS, y Gweinidog dros Dwf Lleol a Diogelwch Adeiladu, yr wythnos hon fuddsoddiad ychwanegol o £1.5bn ar gyfer 75 o gymunedau ledled y DU, gyda Merthyr Tudful yn un o'r trefi a ddewiswyd.

Dywedodd Alex Norris AS, y Gweinidog dros Dwf Lleol a Diogelwch Adeiladu;
"Drwy'r Cynllun Cymdogaethau, bydd 75 cymuned yn derbyn hyd at £20 miliwn ychwanegol yr un mewn buddsoddiad. Gallai'r arian hwn fynd tuag at unrhyw beth o adfywio'r stryd fawr a pharciau lleol i gefnogi creu clybiau ieuenctid, lleoliadau celfyddydol neu fentrau cydweithredol newydd. Ond yn bwysicaf oll, y dewis o sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario yw mater i'r cymunedau eu hunain, pwy fydd yn penderfynu drwy Fyrddau Cymdogaeth newydd.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful;
"Rwyf wrth fy modd gyda'r newyddion y mae disgwyl mawr amdanynt gan Lywodraeth y DU. Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i breswylwyr Merthyr Tudful, nid yn unig oherwydd y bydd y buddsoddiad hwn yn cyfoethogi ein cymunedau, ond oherwydd bydd ein preswylwyr yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd y caiff ei wario.

"Bydd y Cynllun Cymdogaethau yn rhoi ffordd i'n preswylwyr lleol lunio eu dyfodol eu hunain, ac all ai ddim  aros i weld y newidiadau a fydd yn dilyn, a'r gwahaniaeth a wneir am genedlaethau i ddod.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddod â phobl ynghyd, cydweithio a gwneud Merthyr Tudful yn lle i ymfalchïo ynddo."

Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Cymdogaethau ewch i: Cynllun ar gyfer Cymdogaethau: prosbectws - GOV.UK

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni