Ar-lein, Mae'n arbed amser
Lansio ‘Merthyr Tudful Gyda’n Gilydd’ yn y gobaith o sicrhau bod y dref yn le diogel
- Categorïau : Press Release
- 28 Gor 2025

Mae lansiad prosiect yng nghanol y dref, prosiect sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Merthyr Tudful Gyda’n Gilydd’ ac sy’n cydweithio gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid ym Merthyr, yn gam sylweddol tuag at fynd i’r afael â throseddau difrifol a throseddau wedi eu trefnu drwy feithrin cydweithrediad rhwng amryw sectorau o fewn y gymuned. Mae’r dull tri chyfnod hwn yn canolbwyntio ar darfu ar droseddau, sefydlogi’r ardaloedd a effeithiwyd arnynt, a mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd troseddoldeb yn y lle cyntaf.
Pwysleisiodd yr Arolygydd Meirion Collings bwysigrwydd ymateb fel partneriaeth: “Mae llwyddiant menter Merthyr Tudful Gyda’n Gilydd yn dibynnu ar gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, busnesau ac aelodau’r gymuned. Drwy gydweithio, mae’r fenter yn bwriadu cynyddu diogelwch a llesiant y gymuned, creu effaith hirdymor ar leihau troseddau a gwella perthnasoedd rhwng trigolion yr ardal”
“Mae’r rhaglen yn ychwanegu at fodelau llwyddiannus a ddefnyddir mewn ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig, sy’n dangos y gall gweithredoedd sy’n deillio o’r gymuned leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ffordd effeithiol. Mae’r ymrwymiad nid yn unig i weithredu’r gyfraith ond hefyd i gefnogi unigolion mewn angen yn dangos bod gennym strategaeth gyfannol sydd wedi ei hanelu at ddiogelwch a gwelliant hirdymor ym Merthyr.
“Mae’r fenter hon yn cynrychioli ymrwymiad i sicrhau bod Merthyr yn dref fwy diogel, mwy bywiog i drigolion yr ardal ac i ymwelwyr, gan danlinellu’r gred bod ymrwymiad cymunedol yn hanfodol wrth ymateb i drosedd a’r achosion sydd wrth ei wraidd.”
Drwy wahodd disgyblion o Ysgol Gynradd Cae Draw i ddylunio logo i Ferthyr Tudful Gyda’n Gilydd cafwyd dyluniadau creadigol oedd yn ysbrydoli. Llongyfarchiadau i Nika Guan!
Meddai’r Cynghorydd Declan Sammon, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Trawsnewid, Llywodraethu a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Codwyd pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref gan berchnogion busnesau a siopwyr, felly mae’n rhaid i ni weithredu.
“Rydym am i bobl deimlo’n ddiogel o fewn ein tref ac rydym am annog rhagor o ymwelwyr, ac rydym yn gwybod bod y math hwn o weithred yn hanfodol i sicrhau hynny.
“Rydym yn gobeithio gwneud gwahaniaeth go iawn a byddwn yn rhannu datblygiadau’n siwrnai’n gyda chi, drwy roi diweddariadau cyson gan ein partneriaid.”