Ar-lein, Mae'n arbed amser
Merthyr Tudful yn croesawu Coco's Coffee & Candles!
- Categorïau : Press Release
- 30 Mai 2025

Mae busnes newydd cyffrous arall wedi dewis Stryd Fawr Merthyr Tudful fel ei gartref, gyda Coco's Coffee & Candles y siop ddiweddaraf i agor yng nghanol y dref.
Wedi'i leoli yn 143b Stryd Fawr ac wedi'i ddatblygu gan Highfield Property Group, roedd yr adeilad - gynt yn lleoliad Pizza Time - yn eiddo gwag hirdymor ar ran isaf y Stryd Fawr.
Mae cyllid grant o £730,000 o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi galluogi ailddatblygu'r eiddo yn uned fasnachol. Mae'r gwaith wedi cynnwys dymchwel strwythurau blaenorol, gydag integreiddio strwythurau newydd yn llawn, gan gynnwys cynhalwyr dur, to newydd, gwaith gre mewnol, byrddio, plastro, trydan a phlymio wedi'u hadnewyddu'n llawn, ffenestri a drysau newydd, a blaen siop. Roedd hyn yn caniatau i’r gofod gwag a grëwyd i'r uned ddod yn fodern, cynnes, a braf tu fewn sy'n gyffelyb â'r Cocos gwreiddiol yn Aberdâr. Roedd £120,000 o gyllid a dderbyniwyd gan Grant Datblygu Eiddo a Chanol Trefi Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cefnogi'r ffitio cegin, y cownter coffi pwrpasol a'r seddi.
Dywedodd perchennog Coco's Coffee & Candles, Bridie Phillips: "Roedd Merthyr Tudful yn teimlo fel y cam nesaf perffaith ar gyfer Coco's Coffee & Candles. Fel busnes teuluol bach, rydym yn angerddol am greu mannau cynnes, croesawgar lle gall pobl ymlacio, cysylltu a mwynhau rhywbeth arbennig. Rydym yn credu bod busnesau annibynnol fel ein hunain yn dod â chalon ac unigolrwydd i'r stryd fawr - gan gynnig rhywbeth gwirioneddol bersonol na all cadwyni maw rei roi yn aml. Roedd ymdeimlad cryf y dref o gymuned a chefnogaeth i fenter leol yn ei gwneud yn ddewis hawdd i ni.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU am eu cefnogaeth hael, yn ogystal â'r tîm Adfywio gwych yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sydd wedi helpu i ddod â'n gweledigaeth yn fyw.
"Allwn ni ddim aros i groesawu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i'n gofod newydd a bod yn rhan o ddyfodol cyffrous canol y dref."
Dywedodd Rob Price, Cyfarwyddwr Highfields Property Group: "Mae ein hailddatblygiad o 143B y Stryd Fawr yn enghraifft berffaith o'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer dyfodol canol y dref ac mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gyflawni trawsnewidiadau o ansawdd uchel o eiddo gwag.
"Ein nod yw denu a chydweithio â busnesau cyffrous, arloesol, gan helpu i ddod â'u syniadau yn fyw ac ail-fywiogi'r stryd fawr. Yn achos Coco's, rydym wedi gallu helpu Bridie i ehangu ei brand sydd eisoes yn hynod lwyddiannus a'i ddod â hi i Stryd Fawr Merthyr Tudful. Rydym yn falch o wneud hyn mewn partneriaeth â thîm Adfywio'r Cyngor a Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth: "Fel aelod o'r Cabinet dros yr Economi, Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth, mae'n bleser gennyf groesawu Cocos Coffee & Candles i Ferthyr Tudful! Os ydych chi erioed wedi ymweld â siop Aberdâr, byddwch yn ymwybodol bod Cocos yn ymfalchïo mewn coffi arbenigol, pobi, cinio, a'u cynhyrchion persawr a bleidleisiwyd yn Brand Cannwyll Moethus gorau 2023.
"Wedi'i agor yn swyddogol ar 28 Mai 2025, mae Cocos Merthyr yn ychwanegiad unigryw i'r stryd fawr isaf, gyda dau lawr o ddewis seddi mewn awyrgylch hamddenol gyda staff cyfeillgar, gobeithio y byddwch chi'n ymweld dro ar ôl tro!"