Ar-lein, Mae'n arbed amser

Neges o ddiolch gan y frenhines wrth I filiynau o goed gael eu plannu

  • Categorïau : Press Release
  • 31 Maw 2022
Queen Elizabeth and Prince Charles

Ar ddiwrnod swyddogol olaf y tymor plannu coed, rhwng Hydref a Mawrth, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi anfon neges o ddiolch  I bob lar hyd a lle y DU sydd wedi dod at eu gilydd I blannu coed yn ei henw.

Gyda’r ffocws ar blannu cynaliadwy, mae’r neges yn nodi'r pwynt hanner ffordd ar gyfer menter Canopi Gwyrdd y Frenhines sy’n cwmpasu dau dymor plannu. Bydd plannu yn cychwyn eto yn yr Hydref 2022 tan ddiwedd y flwyddyn jiwbilî. Nododd y Frenhines a Thywysog Cymru, Noddwr CGF ddechrau'r tymor plannu ar Hydref 1af 2022 gyda phlannu ffawydden gopr ar dir Balmoral.

Ers hynny, mae miloedd o deuluoedd, ysgolion a grwpiau cymunedol wedi dod at ei gilydd i blannu coed Jiwbilî ar hyd y wlad i greu canopi gwyrdd yn enw’r Frenhines, fel teyrnged i wasanaeth 70 mlynedd y Frenhines i’r Genedl.

Mae’r projectau i’w gweld ar fap Canopi Gwyrdd y Frenhines, o fawredd Ucheldir yr Alban, at y Giant’s Causeway, draw i Ferthyr Tudful yng Nghymoedd De Cymru a draw i Firmingham yng Nghanolbarth Lloegr a gwyrddni hefyd ar hyd a lle Llundain.

Er mwyn rhoi amser i bobl uwchlwytho eu projectau plannu bydd Map  CGF yn cau ddiwedd Ebrill ac yn ail agora r ddechrau'r tymor plannu ar Hydref 1af  2022  i gau'r  tymor plannu cyntaf, plannodd Duges Wessex goeden llwyfen y bore 'ma ym Mhalas Buckingham gyda disgyblion Ysgol Gynradd Grange Park yn Swydd Amwythig. Cyflwynwyd darnau arian coffau'r Jiwbili o’r Bathdy Brenhinol, i nodi cwblhau Gwobr Coedwigwyr Iau RFS y CGF.

Wrth oedi'r plannu tan yr Hydref, bydd CGF yn symud i gyfnod cadwraeth, a dadorchuddio 70 Coedwig Hynafol a 70 Coeden Hynafol. Nodwedd amlwg o dirlun y DU yw’r Coedwigoedd Hynafol, a adweinir fel y “tlysau brenhinol”.

Llwyddiant allweddol CGF ar y pwynt canol yw:

  • Plannu coed ar hyd y DU - mae dros filiwn o goed wedi eu plannu ar draws y DU yn ystod y cyfnod plannu cyntaf.

Gyda Thywysog Cymru yn noddwr mae CGF wedi gweld plannu coed dathlu mawr, rhodfeydd gosgeiddig, plannu trefol ac ehangu coedwigoedd er lles y cenedlaethau i ddod. Mae CGF yn gweld manteision mawr o blannu coed mewn ardaloedd sydd ei angen yn enwedig ysgolion trefol a chymunedau tebyg.

Amcan y CGF yw plannu coed ar draws pob sir yn y DU, gydag ymlyniad cymunedol a phwyslais ar wneud gwahaniaeth i rai o gymunedau mwyaf difreintiedig y DU.

Lansiodd CGF  raglen ‘Champion Cities’ I ddathlu rhai o ddinasoedd y DU sydd a phlannu coed ac ardaloedd o wyrddni yn nodwedd eithriadol o’r tirlun. Rhai o’r dinasoedd hyd yn hyn sydd wedi derbyn y wobr yw Aberdeen, Bath, Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caer, Derby, Caeredin, Glasgow, Greater

Manchester, Caerlŷr, Llundain, Newcastle, Perth, Preston, Southampton, Stoke-on-Trent, Abertawe,  Caerwrangon ac Efrog.

Addysg a Hyfforddiant

Mae’r CGF yn gweithio gydag ysgolion ym mhob dinas yn y DU ac mae bron i 40,000 o blant ysgol gynradd wedi ymuno gyda Gwobr Coedwigwr Iau RFS CGF, sy’n anelu at roi gwybod i blant a phobl ifanc am y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn Coedwigaeth, yn ogystal â darparu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gofalu am goed yn eu hysgolion a chymunedau lleol.

Mae’r Bathdy Brenhinol yn rhoi darnau arian coffa i’r 7,000 plentyn cyntaf i gwblhau’r Wobr. Hefyd mae CGF wedi lansio cynllun hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ddi-waith i ddysgu sgiliau plannu coed yng Nghymru a Lloegr.

Cadwraeth

Bydd CGF yn cyflwyno rhwydwaith o 70 Goedwig Hynafol ar draws y DU er mwyn dangos pwysigrwydd Coedwigoedd Hynafol y DU I bobl am eu hecoleg a hanes. Bydd llawer o’r coedwigoedd hyn hefyd yn lleoliad addysgol ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol.

Bydd cyflwyno 70 Coeden Hynafol ar gyfer CGF yn gychwyn project ehangach o ledaenu deunyddiau o lawer o goed Hynafol pwysig er mwyn arbed y deunydd genetig.

Mewn ffordd ddeinamig ac unigryw mae CGF wedi uno grwpiau coedwigoedd ac amgylcheddol ar draws y DU gydag un nòd: o blannu coed newydd a diogelu coed gwerthfawr- rhai sydd yn gannoedd o flynyddoedd oed.

Cefndir

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter blannu unigryw i nodi Jiwbili ei Mawrhydi yn 2022, gan wahodd pobl ar draws y DU i “ Blannu Coeden am y Jiwbili”.

Bydd pawb o unigolion i grwpiau Sgowtiaid, Geidiaid, pentrefi, dinasoedd siroedd, ysgolion a chorfforaethau yn cael eu gwahodd i wella'r amgylchedd trwy blannu coed yn ystod y tymor plannu rhwng Hydref a Mawrth.

Bydd y plannu yn ail gychwyn ym mis Hydref, tan ddiwedd y flwyddyn. Gyda ffocws ar blannu cynaliadwy bydd CGF yn annog bod plannu coed yn nodi arweiniad y Frenhines fydd er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ogystal â phlannu coed newydd bydd Canopi Gwyrdd y Frenhines yn cyflwyno rhwydwaith o 70 Coedwig Hynafol a 70 Coeden Hynafol I ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth y Frenhines.

Trwy wahodd pawb i blannu nifer o goed trwy’r wlad mae CGF yn ceisio tanlinellu gwerth coed a choedwigoedd fel ffodd byd natur o lanhau'r aer, lleihau dylanwad newid hinsawdd a chreu cynefinoedd pwysig yn ogystal â gwella iechyd a lles yn gyffredinol.

  • Yn ystod ei 70 mlynedd, mae’r Frenhines wedi plannu mwy na 1,500 coeden dros y byd ac mae wedi siarad ochr yn ochr gyda Syr David Attenborough am bwysigrwydd coed yn nyfodol y Ddaear.
  • Mae CGF yn fenter wirfoddol gynhwysol y gall pawb yn y DU gymryd rhan ynddo.
  • Mae CGF yn rhodd symbolaidd sy’n cyflwyno coedwigoedd yn wirfoddol- does dim trosglwyddiad eiddo na thir.
  • Mae’r CGF yn fenter heb elw sydd ddim wedi derbyn cyllid gan y Llywodraeth.

Am fwy o wybodaeth am CGF: www.queensgreencanopy.org

Partneriaid Canopi Gwyrdd y Frenhines

Mae cydweithio yn ganolog i waith CGF. Rydym yn falch o weithio gydag ein partneriaid Cool Earth, The Royal Horticultural Society, The Woodland Trust, Trees for Cities, The Forest Canopy Foundation and DEFRA, The Tree Council, The Conservation Volunteers a Community Forest Trust.

Canopi Gwyrdd y Frenhines- Cefnogwyr Platinwm –

Mae CGF yn ddiolchgar i’n Partner Sefydlu Cyntaf  Grŵp y Bathdy Brenhinol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid Platinwm, Coutts, John Lewis & Partners, Waitrose & Partners, Rentokil Initial, Coupa, Regatta a Craghoppers Bridgepoint, Howdens, Johnnie Walker, McDonald’s UK & Ireland, Bloomberg LP.  Mae Bags of Ethics by Supreme Creations yn Gefnogwr Swyddogol.

Canopi Gwyrdd y Frenhines – Rhwydwaith Ffrindiau CGF

Casgliad amrywiol o grwpiau ar hyd a lle'r DU, mae ein Rhwydwaith Ffrindiau yn cefnogi CGF trwy blannu coed ac ysbrydoli'r genedl.

https://queensgreencanopy.org/about-us/qgc-friends-network/

Cyfryngau Cymdeithasol CGF

Instagram: @queensgreencanopy
Twitter: @QGCanopy
Facebook: @queensgreencanopy
LinkedIn: @queensgreencanopy
Hashtags: #queensgreencanopy #plantatreeforthejubilee #jubileetree

Media Contact
Marnie Gaffney MVO
Head of Communications
The Queen’s Green Canopy
marnie.gaffney@queensgreencanopy.org
+447793266675

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni