Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Morlais Castle Inn i ddod yn ganolbwynt y gymuned fel rhan o adfywiad Pontmorlais

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Meh 2021
Morlais Castle

Yn dilyn gweddnewidiad trawiadol, bydd tafarn hanesyddol arall ym Merthyr Tudful yn ailagor, diolch i gefnogaeth Tîm Adfywio’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a dau gynllun a ariannwyd gan grantiau cenedlaethol.

Pan fydd hi’n ailagor dros y penwythnos, bydd y Morlais Castle Inn, sydd wedi bod ar gau am fwy nag 20 mlynedd, yn cynnig llety preswyl, bwytai mewnol ac allanol, cerddoriaeth fyw a nosweithiau thematig ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal.

Cafodd yr adeilad ei brynu a’i ailddatblygu gan y cwmni lleol GTH Developments am fwy na £500,000. Derbyniodd y cwmni Grant Byw yng Nghanol y Dref o £250,000 gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a chyllid o £159,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda’r datblygwyr yn cyfrannu dros £100,000.

Yn sgil yr ailddatblygiad, cafodd y llawr cyntaf a’r ail lawr eu troi’n fflatiau preswyl gyda cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, man parcio ceir yn y cefn a gwelliant i’r mynediad. Cafodd ffasâd yr adeilad a oedd mewn cyflwr gwael, ei adfer.

Mae’r llawr gwaelod a’r islawr yn cynnwys ardal berfformio fyw, bar seler, ardaloedd bwyta mewnol ac allanol, lloriau a nenfydau newydd, bar derw a gomisiynwyd yn arbennig a’i saernïo â llaw, a gosodiadau a ffitiadau traddodiadol a chyfoes.

Mae’r dafarn yn cael ei phrydlesu gan gwpl sy’n meddu ar brofiad helaeth yn y maes lletygarwch, a’u nod oedd rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned trwy adfywio hen sefydliad, darparu swyddi a chreu man cyfarfod i bobl o bob oed.

Mae Dayle Evans, a aned ym Merthyr Tudful, wedi gweithio yn y sector lletygarwch ar hyd ei oes. Ar un adeg, roedd e’n rheoli’r dafarn, y bwyty a’r clwb nos mwyaf yn Swydd Gaerwrangon ac yn gyfrifol am fusnes â throsiant yn agos i £3m. Mae Kirsty, partner Dayle, yn rheolwr tafarn profiadol, er ei bod hi ar hyn o bryd yn fam lawn-amser i’w mab Noah.

“Roedden ni eisiau cynnig rhywbeth gwahanol i Ferthyr Tudful,” meddai Dayle. “Felly, fe lunion ni gynllun busnes oedd yn cynnig cyflogaeth leol, gan ddatblygu brand oedd yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, yn hytrach na chymryd rhywbeth allan ohoni.”

Dywedodd Dayle iddo feddwl am y syniad o gynnal nosweithiau cerddorol ar thema arbennig i breswylwyr cartrefi gofal ar ôl i’w dad-cu a’i fam-gu farw gyda Dementia Fasgwlaidd yn ddiweddar – fe ei hunan fu’n gofalu amdanynt tua’r diwedd.

Ychwanegodd: “Gyda hyn mewn golwg, roen i’n gwybod bod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y gall miwsig helpu pobl i ddelio â dementia. Ryn ni’n gwybod eu bod nhw’n gallu dal gafael ar eu hymateb i fiwsig - hyd yn oed yng nghyfnodau hwyr neu ddifrifol y clefyd pan ddaw cyfathrebu ar lafar weithiau i ben.”

Credir bod yr adeilad wedi’i godi yn gynnar yn Oes Fictoria, ac mae’n ymddangos mewn delweddau hanesyddol a briodolwyd i ddegawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond cafwyd sawl newid ers hynny, gan gynnwys to a ffenestri newydd, ac mae ochr flaen y siop a fframiau’r drws a oedd mor amlwg yn y delweddau hanesyddol, wedi’u colli hefyd.

Gwnaed yr adnewyddiad presennol fel rhan o Fenter Treftadaeth Treflun Pontmorlais, sy’n adfer ymddangosiad canol y dref hanesyddol trwy ailosod llawer o’r hen nodweddion megis blaenau siopau, ffenestri codi pren, rendradau traddodiadol, llechi naturiol ar y toeau a chafnau dŵr glaw o haearn bwrw.

Dywedodd James Howe, Prif Swyddog Gweithredol GTH Developments, fod y cwmni wedi gweld cyfle delfrydol yn y Morlais Castle Inn i adfywio adeilad eiconig oedd yn dwyn llawer o atgofion melys i drigolion lleol. Ychwanegodd: “Yn ystod y gwaith adnewyddu, byddai nifer o bobl yn holi pryd y byddai’r adeilad yn ailagor ac yn adrodd eu straeon am yr adeg pan oedden nhw’n mynychu’r dafarn.”

“Ryn ni’n gwmni lleol sy’n teimlo ei bod hi’n bwysig inni ailddatblygu adeiladau ym Merthyr Tudful sydd hefyd yn dod â refeniw i’r dref. Mae pob busnes a masnachwr a ddefnyddiwn ni’n rhai lleol ac mae hynny’n help i hybu’r economi leol ac o fudd i bawb trwy ddarparu swyddi, creu refeniw treth, a gwella bywydau’r preswylwyr.”

Heblaw’r bar a’r bwytai, dywedodd Mr Howe y byddai’r datblygiad yn cynnwys fflatiau o safon uchel a fforddiadwy a bod cryn alw amdanynt yn yr ardal.

Y dafarn hefyd yw prosiect diweddaraf y cynllun Yn y Cyfamser a drefnwyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol ac sy’n gyfrifol am lawer o’r adfywiad presennol yn y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio: “Mae’r rhaglen ‘Yn y Cyfamser’ yn cael ei rhedeg gan y Cyngor ac yn delio’n uniongyrchol ag adfywiad cyffredinol yng nghanol y dref. Mae’n gweithio ar y cyd â Hyfforddiant Tudful ac yn rhoi cefnogaeth arloesol ar gyfer busnesau lleol sy’n symud i eiddo am y tro cyntaf a/neu’n arallgyfeirio i gynnig cynnyrch/gwasanaeth newydd.

Ychwanegodd: “Mae adfywio’r eiddo hwn yn un o’r lleoliadau allweddol wedi ychwanegu gwerth sylweddol at ailddatblygu canol y dref ac wedi gweithredu fel catalydd ar gyfer ardal Pontmorlais.”

“Ryn ni’n dymuno pob llwyddiant i GTH Developments ac i Dayle a Kirsty gyda’u mentrau newydd cyffrous ac edrychwn ymlaen at lwyddiant y Morlais Castle Inn fel ychwanegiad parhaol a chalonogol iawn i fywyd y gymuned ym Merthyr Tudful.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni