Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mam efeilliaid yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy'n achub bywydau.

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Maw 2024
Fam Pic

Ar Sul y Mamau eleni, mae Bethan Dyke, sy'n fam i ddau o blant, yn eiriol dros fwy o roddwyr i ddod ymlaen ar ôl derbyn trallwysiadau gwaed a achubodd ei bywyd oherwydd cymhlethdodau yn dilyn genedigaeth ei hefeilliaid.

Fe wnaeth Bethan a'i phartner Craig Keohane o Donyrefail, ddarganfod eu bod yn disgwyl efeilliaid yn gynnar yn 2022. Yn hwyr yn y beichiogrwydd, ar ôl i gyfradd twf Ella, un o’r babanod, arafu, fe wnaeth arbenigwr o Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd y penderfyniad i eni’r efeilliaid trwy doriad cesaraidd wedi'i gynllunio.

Er yn gynharach na'r disgwyl, rhoddodd Bethan enedigaeth i ddau o fabanod iach, Isaac ac Ella, yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful. Wrth fyfyrio am y diwrnod, dywedodd Bethan:

"Pan gawsant eu geni, roeddwn yn teimlo gymaint o emosiwn a rhyddhad eu bod yn ffit ac yn iach. Ni fuasem wedi gallu bod yn rhieni hapusach. "

Funudau wedi'r geni, dechreuodd Bethan ddioddef cymhlethdodau.

Ychwanegodd: "Tra bo Craig a finnau yn dal y babanod, aeth y tîm meddygol ati i gwblhau'r llawdriniaeth, a dyna pryd y dechreuodd yr awyrgylch yn y theatr newid, gyda mwy a mwy o nyrsys a meddygon yn dod i fewn.

"Tua'r adeg yma, cafodd y babanod eu tynnu oddi arna i, a gofynnwyd i Craig adael y theatr.''

Yn dilyn yr enedigaeth, collodd Bethan tua thri litr a hanner o waed, sef dros hanner gwaed ei chorff. Bu'r tîm meddygol yn gweithio'n gyflym i sefydlogi Bethan ac ymyrryd gyda sawl trallwysiad gwaed i helpu i achub ei bywyd.

Diolch byth, fe wnaeth Bethan wella’n llwyr o'i llawdriniaeth ac fe aeth hi’n ôl adref gyda Craig a'r efeilliaid yn fuan wedyn, gan fwynhau bywyd teuluol gyda'i gilydd.

Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd Bethan: "Rwyf mor ddiolchgar am y rhoddwyr hynny a roddodd waed cyn i mi fod angen y trallwysiadau gwaed hollbwysig hynny. Hebddyn nhw ac ymateb cyflym y tîm meddygol, gallai canlyniad y diwrnod hwnnw fod wedi bod yn wahanol iawn i mi a fy nheulu."

Mae angen tua 350 o roddion gwaed ar Wasanaeth Gwaed Cymru bob dydd i helpu'r 19 ysbyty yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl, lle cafodd Bethan ei thrallwysiadau.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Rydym angen 5,000 o roddion y flwyddyn ar gyfer mamau a babanod yn ystod genedigaeth yn unig - dyna filoedd o famau a babanod a fydd wedi cael canlyniadau gwell, sydd wedi achub eu bywydau yn aml, diolch i haelioni ein rhoddwyr. Drwy ildio dim ond awr o'ch amser, mae gennych gyfle unigryw i gefnogi mamau fel Bethan sy'n dibynnu ar drallwysiadau i oroesi yn dilyn cymhlethdodau ar ôl rhoi genedigaeth.

"Mae Sul y Mamau yn gyfle i ni godi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed sy’n achub bywydau, ac annog y rheini sydd erioed wedi rhoi gwaed i fynd amdani.

"Mae rhannu stori Bethan a Craig yn tynnu sylw at wir werth dim ond un rhodd o waed, a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud, nid yn unig i'r sawl sy'n derbyn y trallwysiad ond hefyd, i'w teulu a'u hanwyliaid. Diolch i'n rhoddwyr, gall Bethan edrych ymlaen at y cerrig milltir arbennig hynny fel teulu gydag Ella, Isaac a Craig."

I ddysgu mwy am roi gwaed, platennau, a mêr esgyrn neu i wneud apwyntiad i roi rhodd a allai achub bywyd, ewch i www.welshblood.org.uk.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni