Ar-lein, Mae'n arbed amser
Fflyd cerbydau CBSMT am fod yn drydanol!
- Categorïau : Press Release
- 21 Gor 2021
Mae gan ein tîm gweithredu’r fflyd nod o fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030, ac maen nhw wedi prynu 4 x Cerbyd Trydan a bydd 4 arall yn cyrraedd fis Medi eleni.
Bydd y cerbydau newydd, sydd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan ein Wardeniaid Gwastraff ac Ailgylchu, nid yn unig yn cynhyrchu llai o CO2 am bob km o’i gymharu â’r disel cyfatebol – gan eu gwneud yn well i’r amgylchedd – ond hefyd yn darparu arbedion ariannol i’r awdurdod.
Dywedodd y Warden, Chris Evans: “Rwy’n ymfalchïo’n fawr fy mod yn gyrru cerbyd trydan â sero allyriadau wrth gyflawni fy swydd ddyddiol o helpu preswylwyr i ailgylchu’n effeithlon. Rwy’n teimlo fy mod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil i’r amgylchedd a’r gymuned.”
Bydd y 4 cerbyd newydd, a fydd yn cyrraedd fis Medi, yn cefnogi ein gwasanaethau TG, parcio a gwastraff i deithio gan gynhyrchu sero allyriadau carbon.