Ar-lein, Mae'n arbed amser

Yr amgueddfa ar gau dros dro i symud y casgliadau

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Maw 2022
Cyfarthfa Museum collection

Bydd Amgueddfa Castell Cyfarthfa ar gau am 10 diwrnod er mwyn symud y casgliadau, cyn dechrau ar y gwaith o adnewyddu’r safle.

Bydd tua 10,000 o eitemau sydd wedi eu rhoi i’r amgueddfa dros y 100 mlynedd diwethaf yn cael eu symud dros dro i safle'r Cyngor yn Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach.

Am resymau iechyd a diogelwch bydd yr amgueddfa ar gau rhwng Mawrth 21-31 er mwyn symud y casgliad.

“Bydd y castell yn cael ei addurno fel rhan o weledigaeth Cynllun Cyfarthfa I drawsnewid y lleoliad yn fan gre o safon ryngwladol o fewn parc cyhoeddus,” meddai’r Cyng. Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio.

“Yn y cyfamser bydd y casgliad eang o arteffactau yn adrodd hanes Merthyr Tudful yn cael eu storio mewn lleoliad diogel gyda diogelwch 24-awr. Dim ond yr eitemau sydd wedi eu storio yw'r rhain- bydd gweddill yr eitemau sydd i’w gweld yn yr amgueddfa yn aros mewn lle er mwyn i’r cyhoedd eu mwynhau.”

Agorwyd yr amgueddfa yn 1910 ac mae’n cynnwys arteffactau Eifftaidd, y chwiban stem gyntaf a blwch pleidleisio. Mae’r casgliadau yn cynnwys llestri  Wedgewood, offerynnau pres Band Cyfarthfa a ffrogiau wedi eu dylunio gan y dylunwyr lleol, Laura Ashley a Julien McDonald.

Dwedodd Prif Weithredwr Lles@Merthyr (Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful) Jane Sellwood: “ Wrth fod yn aros i’r gwaith adnewyddu ddechrau bydd y symud hwn yn galluogi’r casgliadau gael ei gadw ac yn sicrhau gwell mynediad gan y cyhoedd. Hwn fydd y cam cyntaf i wneud yr amgueddfa yn brofiad gwell ar gyfer ymwelwyr y dyfodol.

“I wneud yn siŵr bod popeth yn ddiogel, fe fydd rhaid  yn anffodus i gau'r amgueddfa tra bo’r eitemau yn cael eu cludo i’w cartref newydd dros dro yn Uned 5 ym Mhentrebach.”

Yn 2021,  derbyniodd y cynllun 20 mlynedd gyllid o £1.2m gan Lywodraeth Cymru I gefnogi elusen Sefydliad Cyfarthfa – mewn cydweithrediad gyda’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, Ymddiriedolaeth Hamdden a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd – ddechrau ar y gwaith, sy’n cynnwys:

  • Cynnal gwaith trwsio brys i asedau hanesyddol Cyfarthfa
  • Parhau gydag astudiaethau archif hanesyddol yn asesu gwybodaeth a deunyddiau
  • Cysylltu gyda phreswylwyr er mwyn sicrhau bod y safle yn ffocysu ar ddefnyddio'r ardaloedd natur a lleoliadau cymunedol er mwyn hybu lles a bywyd iach.

Bydd mynediad at y casgliadau yn Uned 5 yn gyfyngedig i ymweliadau wedi eu tywys ac ar gael trwy apwyntiad trwy e-bostio museum@merthyrleisuretrust.co.uk <mailto:museum@merthyrleisuretrust.co.uk>, neu ffonio 01685 724741.

Bydd Amgueddfa Cyfarthfa yn ail agora r Ebrill l.

 

 

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni