Ar-lein, Mae'n arbed amser
Amgueddfa ar gau dros dro er mwyn symud y casgliadau sydd wedi eu storio
- Categorïau : Press Release
- 01 Tach 2023

Bydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar gau am bythefnos er mwyn caniatáu i’w chasgliadau celf sydd wedi’u storio gael eu symud i storfa newydd sbon oddi ar y safle.
Yn ogystal ag arian cyfatebol gan berchnogion y casgliad; CBSMT a rheolwyr y casgliad; Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, mae’r storfa celf newydd sbon oddi ar y safle, wedi’u hariannu’n bennaf gan ddyfarniad grant Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru . Nod y Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yw galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau, moderneiddio eu cyfleusterau, creu modelau darparu mwy cynaliadwy, galluogi cydweithio rhwng gwasanaethau a gwella’r hyn a gynigir i bobl a chymunedau.
Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Kelly Powell : “ Cyn i’r gwaith o adnewyddu’r castell, bydd y symud hwn yn sicrhau cadwraeth y casgliad ar gyfer y dyfodol yn ogystal â galluogi’r gwasanaeth amgueddfeydd i barhau i gasglu gweithiau celf sy’n arwyddocaol i Ferthyr Tudful .”
“Bydd yr holl waith celf sy'n cael ei storio yn cael ei ailgartrefu mewn gofod diogel llawer mwy gyda monitro a rheolaethau amgylcheddol llawn a diogelwch 24 awr. Bydd y storfa fwy hyn hefyd yn caniatáu mynediad haws i staff ac yn galluogi’r cyhoedd i weld unrhyw weithiau celf nad ydynt yn cael eu harddangos ar hyn o bryd yn haws.”
“Er mwyn sicrhau bod y symud yn mynd mor esmwyth â phosib, a bod pawb a phopeth yn cael ei gadw’n ddiogel, yn anffodus bydd yn rhaid i ni gau’r amgueddfa (gan gynnwys ei hystafelloedd te) tra bod y gweithiau celf yn cael eu symud i’w cartref newydd.”
Am resymau iechyd a diogelwch, ac er mwyn galluogi tîm yr amgueddfa ac arbenigwyr trafnidiaeth celf i adleoli gweithiau celf o bob siâp a maint, yn ddiogel oddi ar y safle, bydd yr amgueddfa ar gau yn llwyr am bythefnos o ddydd Llun 6 Tachwedd. Bydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn ailagor ddydd Mawrth Tachwedd 21ain am 10 a.m.
Yn dilyn y symud, bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno gweld y gwaith celf sydd wedi ei storio wneud apwyntiad trwy e-bostio museum@wellbeingmerthyr.co.uk neu ffonio 01685 727371.