Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diweddariad Llyncdwll Nant Morlais 5.12.24
- Categorïau : Press Release
- 05 Rhag 2024

Oherwydd y tywydd ar hyn o bryd, mae lefel y dŵr yn y cwlfert wedi codi ac mae Dŵr Cymru wedi gorfod oedi eu gwaith er mwyn symud craen i'r safle i wneud y gwaith sefydlogi brys.
Mae'r pympiau dŵr sy'n gweithio i ddargyfeirio llif yr afon hefyd yn cael trafferth ymdopi.
O'r bore yma, mae maint y llyncdwll wedi cynyddu.
Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad ydym bellach mewn sefyllfa i ganiatáu i ddeiliaid tai o ben isaf y ffordd bengaead ddychwelyd adref yn ddiogel, o bosibl tan yn gynnar yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, bydd y llinell amser hon yn dibynnu'n helaeth ar y tywydd dros y penwythnos.
Byddwn yn darparu diweddariad pellach yfory