Ar-lein, Mae'n arbed amser

Wythnos Prentisiaethau 2021

  • Categorïau : Corporate
  • 10 Chw 2021
Social_cards_4

Rydym yng nghanol Wythnos Prentisiaethau 2021, sef cyfle i sefydliadau ar draws y gwlad i ddelio ag un o’r heriau mwyaf sydd yn eu hwynebu: prinder cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau. 

Gall prentisiaethau ddarparu dull cost effeithlon o ddenu talent newydd a rhoi egni newydd i dalent sydd gennych eisoes er mwyn sicrhau llwyddiant eich busnes yn y dyfodol, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn ymroddedig i gefnogi’r cynllun Prentisiaethau -- yn mewnol ac yn allanol. 

Pam prentisiaethau?

Mae prentisiaethau yn cynnig fframwaith hyfforddi cynhwysfawr ond hyblyg sy’n arwain at achrediadau cenedlaethol all gynorthwyo aelodau’n tîm ar bob lefel. Maent yn gwella perfformiad ac yn arddangos cymhwysedd i wella’r gwasanaeth y maent yn eu darparu i chi, drigolion Merthyr.

Mae’n hollbwysig fod ein staff yn cael eu datblygu hyd eithaf eu gallu ac rydym wedi gwneud hyn yn y gorffennol trwy ddefnyddio strwythur cynllun Prentisiaeth. Mae CBSMT wedi cael llwyddiant sylweddol yn gwella sgiliau gyda chyflogai yn astudio am brentisiaethau, yn amrywio o TG, Rheoli, Arweinyddiaeth Tîm ac AD, Peirianneg Sifil, Rheoli Adeiladu, Garddwriaeth ac Adeiladu.  

Beth yw barn ein staff am eu prentisiaethau?

Mae Arwel Hughes yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil. Dywedodd: 

"Ni allaf ganmol y brentisiaeth ddigon. Rwyf wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau flwyddyn a hanner yn ôl. Mae wedi bod yn anhygoel!

"Ers i mi ddechrau fy mhrentisiaeth, mae sawl un wedi dweud wrthyf am sut rydw i wedi elwa trwy ddilyn llwybr prentisiaeth yn hytrach na llwybr addysgol gan fod profiad yn bopeth yn fy niwydiant. 

"Mae tîm o gydweithwyr brwdfrydig wedi bod yn barod i fy nghynorthwyo, hyd yn oed gyda’r ymholiad lleiaf ac o achos hynny, rwy’n dysgu mwy bob dydd." 

Mae Ryan James yn gweithio tuag at ennill cymhwyster Lefel 5 ILM.

"Roedd y cymhwyster ILM yn ffordd hyblyg ond strwythuredig o ddysgu heb fynychu’r coleg. Mae’r cymhwyster yn cael ei hadnabod yn rhyngwladol ac mae wedi bod yn gymorth i ddatblygu fy sgiliau, fy mhrofiad a fy nyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol. 

"Roedd y tiwtor yn gefnogol iawn trwy gydol y brentisiaeth a chynorthwyodd mi i sicrhau fy mod wedi dewis modylau a oedd yn berthnasol i fy  natblygiad.” 

Dros y misoedd nesaf, rydym yn edrych ymlaen at rannu rhagor o ddatblygiadau cyffrous â chi ar ein llwybr at Brentisiaethau.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni