Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arweinwyr Gwenynwyr Cenedlaethol yn Canmol Merthyr Tudful fel Egin Ganolfan ar gyfer Addysg Peillwyr

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Gor 2026
NATS

 Mae Merthyr Tudful wrthi’n denu sylw cenedlaethol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer addysg peillwyr a bioamrywiaeth yn dilyn ymweliad diweddar gan uwch gynrychiolwyr Cymdeithas Gwenynwyr Cymru.

Arddangosodd yr ymweliad, a drefnwyd gan Gymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch, raglen addysg arloesol yr elusen sydd yn helpu pobl ifainc i ddeall swyddogaeth peillwyr o fewn themâu cynhyrchu bwyd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Teithiodd ymwelwyr o bob cwr o Gymru i Ferthyr Tudful, yn cynnwys Cadeirydd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, Paul Pearce, er mwyn dod i ddeall y prosiect a thrafod cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol. Yn rhan o’r ymweliad roedd taith o amgylch Canolfan Orbit, lle mae profiad addysgol rhyngweithiol, trwythol wrthi’n cael ei ddatblygu. Dilynwyd hynny gan ymweliad i’r ardal gwenynwyr a’r Ardd Beillwyr ym Mharc Cyfarthfa.

Meddai Sue Taylor, Cadeirydd Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch:

“Mae ein prosiect addysg yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddeall pam fod peillwyr yn bwysig, yr heriau maent yn ei wynebu. a’r camau ymarferol gall bob un ohonom eu cymryd er mwyn eu cefnogi. Maen cyd fynd yn agos gyda’r cwricwlwm addysg newydd a’r nod yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy ddysgu mewn ffordd ddiddorol, ymarferol.”

Roedd yr adborth a gafwyd o ddirprwyaeth Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn hynod gadarnhaol, gyda nifer yn disgrifio’r cyfleusterau ac agwedd Merthyr Tudful yn ‘unigryw’ ac yn ‘ddull sy’n ysbrydoli’.

Meddai un person a fynychodd:

“Mi ddylech fod yn falch iawn o’r hyn rydych wedi’i gyflawni ym Merthyr. Ni allaf feddwl am gyfleusterau tebyg mewn un man arall yng Nghymru. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yma wir yn achosi rhywun i gnoi-cil ynghylch sut gall addysg am beillwyr ddatblygu’n genedlaethol.”

Ychwanegodd un arall:

“Mae’r profiad drwytho yn rhywbeth sydd angen ei brofi er mwyn gallu ei gredu. Mae’n ffordd gyffrous, fodern o ddiddori pobl a byddai’n ased hynod werthfawr i addysg ledled Cymru.”

Mynegodd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru ddiddordeb mewn ail-greu elfennau o fodel Merthyr mewn ardaloedd eraill, yn cynnwys Canolbarth a Gogledd Cymru, gan bwysleisio’r potensial i Ferthyr Tudful chwarae rôl arweiniol wrth ffurfio dyfodol addysg peillwyr yng Nghymru. 

Mae'r prosiect eisoes wedi cydweithio ag ysgolion lleol, gwenynwyr dan hyfforddiant, a grwpiau cymunedol, gan gynnwys disgyblion o Ysgol Santes Tudful, a gymerodd ran mewn gweithgareddau yn ystod yr ymweliad. Mynegodd y trefnwyr eu diolch hefyd i wirfoddolwyr a chyfranogwyr sydd wedi cefnogi'r fenter drwy gydol y flwyddyn.

Er bod y prosiect yn parhau i dyfu, mae cyfle i ddwysau ei effaith ymhellach. Byddai ehangu cyfleusterau, gan gynnwys datblygu lle dysgu pwrpasol ym Mharc Cyfarthfa, yn datgloi cyfleoedd ariannu ychwanegol ac yn galluogi'r rhaglen i gyrraedd mwy o bobl.

Gyda hanes cryf o dros 50 mlynedd, mae Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a'r Cylch mewn sefyllfa dda i adeiladu ar y llwyddiant hwn a throi’r ardal yn ganolfan gydnabyddedig ar gyfer addysg a hyfforddiant amgylcheddol.

Mae'r ymweliad diweddaraf hwn yn tanlinellu enw da cynyddol Merthyr Tudful yn le sydd nid yn unig yn dathlu ei dreftadaeth naturiol, ond hefyd yn weithredol wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni