Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn [artneru gyda BBC Radio Wales i gyflwyno 'Rewind Archive Special'

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Mai 2025
Library Event

Fel rhan o sefydlu "Corneli Clip" Archif Ddarlledu Cymru gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ledled y wlad, bydd Llyfrgell Canolog Merthyr Tydfil yn lansio eu gofod gwylio bwrpasol eu hunain yn swyddogol ym mis Mehefin — gan ddod â chyfoeth hanes darlledu Cymru i galon y gymuned.

I nodi'r achlysur, ar 10 Mehefin mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn partneru â BBC Radio Wales i gyflwyno rhaglen Rewind Archive Special — digwyddiad byw yn dathlu etifeddiaeth ddiwylliannol a darlledu Cymru. Bydd y digwyddiad byw yn cael ei recordio a'i ddarlledu fel rhaglen arbennig Rewind Archive Special ar BBC Radio Wales yn fuan wedyn.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Lucy Owen o BBC Cymru Wales, gyda ymddangosiadau arbennig gan yr eiconau darlledu Owen Money a Roy Noble, a hefyd y gantores a'r cyflwynydd Aleighcia Scott.

Lleoliad y digwyddiad fydd atriwm trawiadol Coleg Merthyr Tydfil, a bydd y digwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim yn dwyn ynghyd eiliadau eiconig o archifau BBC Radio Wales ochr yn ochr â chlipiau darlledu teledu a sgwrs fywiog.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae Archif Ddarlledu Cymru yn bodoli i gadw a rhannu'r lleisiau a'r straeon sydd wedi llunio Cymru fodern. Mae lansio Cornel Clip ym Merthyr yn gam pwysig wrth wneud ein treftadaeth ddarlledu genedlaethol yn hygyrch i fwy o gymunedau, ac rydym wrth ein bodd yn nodi'r achlysur gyda'r cydweithrediad arbennig hwn â BBC Radio Wales."

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ehangach gan BBC Cymru Wales sy'n dathlu Merthyr Tudful. Ychwanegodd Carolyn Hitt, Golygydd BBC Radio Wales: "Rydym wrth ein bodd yn bod yn rhan o'r digwyddiad unigryw hwn sy'n dathlu hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog Merthyr Tudful trwy bŵer radio ac archif. O gerddoriaeth a chwaraeon i eiliadau bythgofiadwy yn ein cymunedau, mae'r straeon rydym wedi'u hadrodd dros y degawdau yn rhan o wead Cymru—ac mae'n llawenydd dod â rhai o'r atgofion hynny'n fyw ar y llwyfan."

Mae Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu etifeddiaeth darlledu Cymru ac mae'n bartneriaeth rhwng y Llyfrgell, ITV Cymru Wales, BBC Cymru Wales, ac S4C—wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a'r Llyfrgell ei hun. Ei chenhadaeth yw cadw a rhannu treftadaeth ddarlledu Cymru gyda phawb.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Rydym yn falch o gefnogi Archif Ddarlledu Cymru i gadw a rhannu treftadaeth gyfoethog darlledu Cymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae prosiect Cornel Clip yn helpu cymunedau ledled Cymru i gysylltu â'u straeon a'u hanes lleol. Mae'r lansiad ym Merthyr yn enghraifft wych o sut y gall treftadaeth ysbrydoli balchder, myfyrdod, ac ymdeimlad cryfach o hunaniaeth yn y lleoedd y mae pobl yn eu galw'n gartref.."

Mae tocynnau am ddim ar gael yn: www.llyfrgell.cymru/digwyddiadau

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni