Ar-lein, Mae'n arbed amser

Canolfan Dysgu Cymdogol o bosib am fod yn llety arloesol i bobl ifanc

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Mai 2021
Neighbourhood Learning Centre revamp

Gallai Canolfan Dysgu Cymdogol y Cyngor yn y Gurnos gael ei throi’n ganolfan lety  unigryw i breswylwyr ifanc gan ddarparu lle iddynt fyw ynddo a hyfforddiant ar y safle.

Ers 24 mlynedd bu’r adeilad yn ganolfan addysgiadol sy’n helpu pobl ifanc ddi-waith ac oedolion i gael swyddi mewn amrywiaeth o alwedigaethau gan gynnwys gwaith saer, plymio ac adeiladu, trin gwallt, a chrochenwaith a gwaith cerameg.

Fel rhan o brosiect Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf, byddai’r gweithdai’n cael ei hadleoli – gan adael y cyfleusterau hyfforddi ble maen nhw – gydag un o’r pedwar bloc o adeiladau yn cael ei drawsnewid i fod yn bump o fflatiau hunan gynhaliol.

Ar hyn o bryd mae gan y CDC uned trin gwallt ag offer salon proffesiynol, odyn crochenwaith a gweithdy cerameg – a’r cynllun yw annog preswylwyr lleol hefyd i ddefnyddio’r ganolfan drwy gynnig dosbarthiadau Cymdogol ar yr un sgiliau.  

Mae’r Cyngor wedi gwneud cais am nawdd ar gyfer y prosiect oddi wrth Raglen Cyfalaf Disgresiwn Cronfa Gofal Integredig Cwm Taf Morgannwg, sydd wedi dynodi gwaith gyda phobl ifanc a phlant sy’n derbyn gofal fel blaenoriaeth allweddol.  

Y brif nod yw helpu i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru. Bydd yr adeilad yn darparu cyfle deublyg i bobl ifanc i fyw’n annibynnol a chael eu cefnogi i ddod o hyd i gyflogaeth.

“Gwyddom, ers nifer o flynyddoedd fod y Ganolfan Dysgu Cymdogol wedi bod yn agwedd bwysig o fywydau llawer o bobl. Mae wedi eu helpu i ennill sgiliau a swyddi,” dywedodd y Pennaeth Adfywio a Thai, Chris Long.  “A bydd y rôl honno yn parhau.

“Fodd bynnag, mae’r adeiladau eu hunain wedi gweld dyddiau gwell, a bydd yr ailddatblygu hwn yn eu trawsffurfio’n llety modern a diogel gydag ystafelloedd staff cefnogi, gwelliannau i du blaen pob bloc o’r adeilad a gwell mynediad at barcio,” ychwanegodd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gyflenwi 20,000 o dai fforddiadwy rhwng 2016 a 2021.  Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i fodloni’r targedau hyn ac rydym am sicrhau fod yna ddigon o dai addas a fforddiadwy i fodloni’r angen am dai ym Merthyr Tudful.

“Mae’r Ganolfan Dysgu Cymdogol yn creu cyfle i helpu gyda’r galw hwn, gan ddarparu canolfan unigryw fel llety ble fydd y tenantiaid hefyd yn gallu cael mynediad at hyfforddi ar y safle a allai arwain at addysg bellach drwy fynychu eu coleg lleol a chyflogaeth yn y dyfodol.  

“Mae’n bwysig ein bod ni’n arloesi ar gyfer ein pobl ifanc gan roi’r cyfle iddynt fod yn uchelgeisiol ac yn optimistig am eu dyfodol.”  

Mae’r Cyngor yn cyflawni ymarfer ymgynghori, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr a gofyn iddynt am eu safbwyntiau drwy grŵp preifat ar Facebook (Neighbourhood Learning Centre revamp). Rydym hefyd yn gofyn am eich sylwadau a chwestiynau drwy e-bost, neu ffonio / postio.  

Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd o ddydd Llun 10 Mai tan ddydd Llun 24 Mai.

Gallwch ofyn unrhyw ymholiad un ai drwy ffonio 01685 725475 neu e-bostio: housing@merthyr.gov.uk

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni