Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y pencampwr bocsio Gavin yn cwrdd â’r Maer Malcolm
- Categorïau : Press Release
- 13 Mai 2022
Cafodd Maer Merthyr Tudful y Cyng. Malcolm Colbran ddiwedd pleserus i’w flwyddyn a effeithiwyd gan y pandemig pan ymwelodd ein pencampwr bocsio diweddaraf â’r parlwr.
Roedd Malcolm wrth ei fodd i groesawu pencampwr bocsio pwysau ysgafn Prydain a’r Gymanwlad Gavin Gwynne a ddaeth a’i ddau wregys Londsdale a’r Gymanwlad ac arwyddo llyfr yr ymwelwyr.
Enillodd Gavin, 32 oed, ei deitl cyntaf ym mis Chwefror pan enillodd bencampwriaeth y Gymanwlad ac yn fuan wedyn curodd Luke Willis a dod â theitl Prydain yn ôl i Gymru.
Nid Gavin yw’r pencampwr bocsio cyntaf i arwyddo’r llyfr ymwelwyr ym mharlwr y Maer yn y Ganolfan Ddinesig - yn 2009, galwodd cyn pencampwr bocsio'r byd Mike Tyson heibio wrth osod blodau ger cofgolofnau ei arwyr Johnny Owen a Howard Winstone.
Dwedodd y Cyng. Colbran: “Mae gan Merthyr etifeddiaeth focsio werthfawr- yn cynnwys diweddar dad y Cyng. Geraint Thomas, Eddie.
“Ond mae rhai blynyddoedd ers y pencampwr diwethaf, felly rydym wrth ein bodd bod Gavin wedi dod a’r sylw yn ôl i’n bwrdeistref sirol ac edrychwn ymlaen at lawer mwy o lwyddiant iddo.”