Ar-lein, Mae'n arbed amser
Teyrnged ysgol newydd i gyn Bennaeth
- Categorïau : Press Release
- 02 Meh 2021

Bydd staff a disgyblion Ysgol Y Graig, Cefn Coed, bob amser yn cofio am gyn Bennaeth yr Ysgol, y diweddar Matthew Harries wedi i fainc gael ei dadorchuddio a choeden gael ei phlannu, er cof amdano.
Roedd cyn Faer Merthyr Tudful, y Cynghorydd Howard Barrett yn bresennol ar safle’r ysgol er mwyn cyflwyno’r fainc y rhoddodd ef i’r Ysgol, er cof am Mr Harries, y cyn Bennaeth.
Dadorchuddiwyd y fainc a phlannwyd y goeden Dderw Jiwbilî yr oedd Matthew wedi bod yn ei thyfu ar gyfer yr ysgol newydd gan Arweinydd y Cyngor ac aelod o ward Cefn Coed, y Cynghorydd Lisa Mytton a’r Cynghorydd Barrett.
Hefyd, yn bresennol oedd y Pennaeth presennol, David Anstee, athrawon, disgyblion a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Ann James – ynghyd â chynrychiolwyr o gwmni adeiladu Kier, gan gynnwys y Rheolwr Prosiect, Mark Poole.
Bydd yr ysgol newydd yn disodli’r hen adeilad presennol. Lleolir yr adeilad modern, dau lawr ar hen safle Ysgol y Faenor a Phenderyn yng Nghefn Coed. Disgwylir y bydd yr adeilad wedi’i gwblhau erbyn dechrau’r tymor ysgol newydd ym mis Medi 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Barrett: “Roeddwn am wneud rhywbeth fyddai nid yn unig yn nodi’r adeilad newydd ond a fyddai hefyd yn deyrnged barhaol i Matthew Harries, aelod hoffus o’r staff sydd yn cael ei golli’n fawr iawn.”