Ar-lein, Mae'n arbed amser
DIM ESGUS DROS GAM-DRIN
- Categorïau : Press Release
- 30 Medi 2025

Yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, rydym yn cymryd cam-drin neu ymddygiad ymosodol sy'n cael ei gyfeirio at ein staff gan aelodau'r cyhoedd o ddifrif iawn, boed hynny wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu ar-lein.
Mae ein staff yma i helpu, a rhaid iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau heb ofni trais, cam-drin na aflonyddu.
Ni fydd ymddygiad treisgar, bygythiol neu gamdriniol yn cael ei oddef a, lle bo angen, caiff ei adrodd i'r heddlu.
Rydym yn deall y gall pobl ddod yn rhwystredig os ydynt yn teimlo nad yw materion yn cael eu trin fel y maent yn dymuno. Gall rhywun fod dan straen neu fod â phroblemau personol eraill; fodd bynnag, nid yw hyn yn esgus dros ymddygiad ymosodol.
Rydym yn croesawu adborth i helpu i wella ein gwasanaethau, boed yn sylw, yn gŵyn neu'n ganmoliaeth. Ewch i'n tudalen Sylwadau, Cwynion a Chanmoliaeth am ragor o wybodaeth.