Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dim lloches nos gaeaf eleni

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Tach 2020
Night shelter open day

O ganlyniad i gyfyngiadau coronafeirws, ni fydd lloches nos i bobl ddigartref ym Merthyr Tudful y gaeaf hwn.

Yn lle hynny, bydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn cynnig llety dros dro i gysgwyr ar y stryd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Grŵp Tai: Pobl, Byddin yr Iachawdwriaeth a Cornerstone, sy’n cefnogi pobl ddigartref ac sy’n cynnig eu gwasanaeth yn yr holl leoliadau llety dros dro ledled Merthyr Tudful.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu awdurdodau lleol nad ydyn nhw i fod i ddefnyddio na chefnogi gwirfoddolwyr i redeg lloches nos gaeaf eleni oherwydd na fyddai modd cynnal rheoliadau hylendid a diogelwch yn unol â chanllawiau Covid-19.

“Fodd bynnag, byddwn yn derbyn tua £1m o arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu i ddiwallu’r galw cynyddol am dai drwy sicrhau llety parhaol i’r boblogaeth ddigartref.

“Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu i redeg y lloches nos gaeaf dros y blynyddoedd,” ychwanegodd. “Hoffwn yn arbennig dalu teyrnged i Andy Pitt, sef Gweinidog yng Nghapel y Parc – sy’n symud i Gasnewydd – am yr holl waith a chefnogaeth y mae wedi eu darparu ers i’r lloches nos gyntaf gael ei sefydlu.

“Byddwn yn gweld ei eisiau a dymunwn y gorau iddo yn ei rôl newydd.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni