Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae ymgyrch 'Nawr yn Amser Da' yn galw ar fwy o bobl i fabwysiadu

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Hyd 2025
NAW

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu hon (20 hyd 26 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn galw ar fwy o bobl yng Nghymru i ystyried mabwysiadu wrth feithrin eu teuluoedd a hynny fel rhan o'i ymgyrch 'Mae Nawr yn Amser Da'. Mae'r ymgyrch wedi'i hysbrydoli gan straeon am yr eiliad yna y mae rhieni yn gwneud y penderfyniad fydd yn newid bywydau, sef dechrau'r broses fabwysiadu, a'r argymhellion personol a'u helpodd i gyrraedd y nod.

Mae pob teulu'n unigryw, ac mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cefnogi mabwysiadwyr o wahanol fathau o deuluoedd trwy'r broses. Ers i'r gwasanaeth gael ei sefydlu dros ddeng mlynedd yn ôl, mae mabwysiadu gan gyplau o'r un rhyw wedi cynyddu i 22% yng Nghymru ac i 10% ymysg pobl sengl, tra bod cyfran y mabwysiadwyr o gefndiroedd BAME neu ethnigrwydd cymysg wedi cynyddu i 17%.

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle gwych i ddathlu’r llawenydd sy’n cael ei greu o fewn cymaint o deuluoedd Cymreig drwy fabwysiadu, ac i apelio at unrhyw un sy’n ystyried dechrau, neu ehangu eu teulu am ba reswm bynnag, i’w ystyried.

“Mae mabwysiadu yn rhoi cymaint i rieni ac i blant ac er y gall fod yn heriol ar adegau, mae gwasanaethau ar gael i gefnogi darpar fabwysiadwyr, a’r teuluoedd a grëwyd, bob cam o’r daith hon sy’n newid bywydau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau ar eich taith fabwysiadu eich hun neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am y broses, gallwch gysylltu ag un o’n pum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol neu’r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol annibynnol ledled Cymru.”

Ynglŷn â Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 2014, Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yw menter gydweithredol Cymru gyfan ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Mae wedi dod â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ynghyd mewn i strwythur tair haen, sy’n cynnwys partneriaethau ar bob lefel ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg, yn ogystal ag eraill.

Yn lleol, mae pob awdurdod lleol yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bob plentyn sy’n derbyn gofal tra’n adnabod a gweithio gyda’r plant hynny y mae cynllun mabwysiadu yn briodol. Yn rhanbarthol, mae awdurdodau lleol yn cydweithio o fewn pum menter gydweithredol ranbarthol i ddarparu nifer o wasanaethau mabwysiadu. Mae'r gwasanaethau i gyd yn darparu swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer plant, yn recriwtio ac yn asesu mabwysiadwyr, yn cynnig cwnsela i rieni geni a chyngor i oedolion mabwysiedig, yn ogystal â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae gan bob cydweithrediad rhanbarthol gysylltiadau â'r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, iechyd ac addysg.

Yn genedlaethol, mae’r Cyfarwyddwr a thîm canolog bach, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran pob un o’r 22 awdurdod lleol, yn darparu arweiniad, datblygiad a chydlyniad cenedlaethol. Ers mis Medi 2015, mae’r tîm canolog hefyd yn rheoli Cofrestr Mabwysiadu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol yng Nghymru yn cydweithio fel Partneriaeth Mabwysiadu Gwirfoddol Strategol; mae hyn yn cynnwys Cymdeithas Plant Dewi Sant [gan gynnwys y Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu yng Nghymru (AFA Cymru)], Adoption UK, a Barnardo’s Cymru.

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2025 o 20 hyd 26 Hydref. Y digwyddiad blynyddol sy'n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth am fabwysiadu a dathlu'r teuluoedd sydd wedi'u meithrin trwy'r broses hon.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni