Ar-lein, Mae'n arbed amser

Nawr? Nesaf? Sut? Llywodraethwyr yn sefydlu’r camau nesaf i strategaeth Codi Dyheadau, Codi Safonau

  • Categorïau : Press Release
  • 17 Gor 2023
gov pic

Daeth llywodraethwyr o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful at ei gilydd ddydd Llun 10 Gorffennaf i ystyried yr hyn a gyflawnwyd wrth ddatblygu llywodraethwyr mewn ysgolion o fewn y strategaeth Codi Dyheadau, Codi Safonau (RARS). Ymunwyd â nhw gan swyddogion yr awdurdod lleol, y consortia rhanbarthol a’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, a fydd yn bwrw ymlaen â’r argymhellion diweddar o adroddiad Thematig Estyn, ‘Llywodraethwyr Ysgol – gweithredu fel ffrind beirniadol ac effaith hyfforddiant llywodraethwyr.'

Agorodd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg, y gynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf drwy drafod yr ‘llinyn aur’ sy’n dangos sut mae pob cynllun ar draws yr awdurdod lleol yn cysylltu â’i gilydd. Mae addysg yn cysylltu â phob elfen o’r Cynllun Corfforaethol newydd ‘Gweithredu Heddiw ar gyfer Gwell Yfory’.

Yn y myfyrdodau cychwynnol, cydnabu’r mynychwyr y cynnydd a wnaed gyda gwell cydweithio ac ymgysylltu yn dod ar drosodd yn gryf, yn ogystal â bod yn fwy ymwybodol o ddisgwyliadau.

Daeth nifer dda i’r digwyddiad gyda chynrychiolaeth o bob ysgol ar draws y Fwrdeistref, gan roi’r cyfle i fyfyrio, rhannu arfer ac ystyried y camau nesaf. Rhannodd pum ysgol eu profiadau unigryw, a oedd yn cynnwys paratoi ar gyfer Arolygiadau Estyn, yn ogystal â sut y maent yn mynd i’r afael ag ‘atebolrwydd democrataidd’ fel yr amlinellir yn y canllawiau anorfodol ar gyfer Gwella Ysgolion, gwerthuso ac atebolrwydd.

Rhoddodd ystod o weithdai le i rannu syniadau ar y camau nesaf hanfodol. Arweiniodd y cydweithio hwn at awgrymiadau cyfoethog a gwybodus ynghylch rolau a chyfrifoldebau statudol, gan gynnwys awgrymiadau ynghylch dysgu a datblygu, trafod yr heriau y maent yn eu hwynebu – gan gynnwys amser! Fel gwirfoddolwyr, roeddent yn awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei gynnwys yn y dulliau a ddefnyddir i uwchsgilio'r boblogaeth llywodraethwyr. Roedd datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn a olygir gan ‘atebolrwydd democrataidd’ hefyd yn rhan o’r trafodaethau.

Fel y corff atebol ar gyfer ysgolion, mae sicrhau bod cyrff llywodraethu yn effeithiol yn agwedd allweddol ar arweinyddiaeth. Mae llywodraethwyr yn chwarae rhan bwysig wrth weithredu fel ffrind beirniadol, cefnogi a herio arweinwyr ysgol. Roedd recriwtio a chadw, yn ogystal â pholisïau allweddol o fewn addysg megis y Gymraeg mewn Addysg, Llythrennedd ac Ysgolion Bro yn brif bwyntiau trafod.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gydag adborth cadarnhaol iawn am ddysgu a datblygu.

I ddarganfod mwy am ddod yn llywodraethwr o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ewch i: 

www.merthyr.gov.uk/resident/learning-in-merthyr-tydfil/school-governors/

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni