Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dechrau da - Artist lleol yn agor yr oriel gelf, breifat gyntaf ynghanol tref Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 21 Medi 2022
Art of Aimie

Mae Aimie Sutton, artist portreadau lleol wedi agor y stiwdio ac oriel gelf annibynnol/breifat gyntaf ym Merthyr Tudful a hynny yn dilyn llwyddiant ei busnes ar-lein yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.  

Agorodd ‘The Art of Aimie,’ yn swyddogol ddechrau Gorffennaf ac mae wedi bod yn brysur ers hynny gan ddod â lliw a diwylliant i ganol y dref.  

Dechreuodd y cyfan wedi i anaf rhedeg gadw Aimie o’r gwaith am bythefnos yn 2017. Nid oedd fodd iddi adael y tŷ ac ailgydiodd yng nghariad ei phlentyndod a dechrau darlunio â phensiliau a’u postio ar-lein er mwyn i’w theulu a’i ffrindiau eu gweld.

Yn dilyn hyn, dechreuodd Aimie dderbyn comisiynau gwaith pensil, acrylig ac olew ar ei thudalen Facebook  - denodd hyn nifer fawr o ddilynwyr, ledled Merthyr a’r Cymoedd. 

Yn raddol, tyfodd ei llyfr archebion a llwyddodd Aimie, sydd yn fam i dri o blant ddyfod yn artist llawn amser. Roedd angen lle parhaol arni i greu ac arddangos ei chelf ac mae’n awr ar Stryd y Clastir.

Cafodd y fenter ei gwireddu yn sgil cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chynllun ‘Yn y Cyfamser’ sydd yn hwyluso mentrau newydd sydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr Merthyr Tudful i agor mewn eiddo gwag yn y dref. 

Derbyniodd ‘The Art of Aimie’ gymorth o ran ffioedd cyfreithiol, costau rhent ac i wneud rhywfaint o waith i’r eiddo. Cafodd y fenter ei gwireddu yn sgil arian gan Gronfa Trawsnewid Busnesau Tref Llywodraeth Cymru. Cafwyd hefyd gefnogaeth gan Hyfforddiant Tudful a’r Gronfa Adnewyddu Gymunedol (CAC.) 

Ar y cyd â’i chasgliad personol o weithiau acrylig ac olew a phortreadau a phrintiau o enwogion, mae Aimie hefyd yn cynnig portreadau teulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes a gellir eu comisiynu’n uniongyrchol ganddi yn ei safle newydd. Gall cwsmeriaid gael lluniau wedi eu hargraffu ar grysau t, bagiau tote a mygiau.

Dywedodd Aimie: “Wrth i fy musnes gynyddu ar-lein ac wedi i mi weld cynifer o fusnesau llwyddiannus yn agor ym Merthyr Tudful, roedd yr haf hwn yn gyfle gwych i fentro ac agor oriel ‘The Art of Aimie.’

“Mae wedi bod yn wych i ddarganfod cymuned artistig Merthyr Tudful. Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl sydd wedi galw heibio i drafod eu hoffter o gelfyddyd a rhannu eu gwaith â mi. Mae cymorth y Cyngor wedi bod yn wych yn ystod fy nhaith ac rwy’n ddiolchgar i fyw mewn tref sydd yn gosod cymaint o bwysigrwydd ar gefnogi busnesau lleol, newydd.”

Derbyniodd ‘The Art of Aimie’ gefnogaeth yn ogystal gan Ganolfan Fentergarwch Merthyr Tudful (CMMT) – prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Hyfforddiant Tudful, sydd yn cefnogi anghenion busnesau newydd a busnesau sydd yn bodoli’n barod.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae’n wych gweld busnes newydd arall yn agor ynghanol tref Merthyr Tudful. Rydym am bwysleisio’n cefnogaeth i bob math o fenter, o artistiaid i dai bwyta er mwyn i ni sicrhau busnesau amrywiol a chynnig darpariaeth newydd i drigolion ac ymwelwyr.

“Mae’r oriel wedi bod yn ychwanegiad gwych i ganol y dref a bydd, gobeithio yn ysbrydoli eraill a chenedlaethau’r dyfodol o artistiaid ym Merthyr Tudful.

“Trwy fusnesau fel ‘The Art of Aimie,’ mae cynllun ‘Yn y Cyfamser’ yn trawsffurfio canol y dref ac yn creu hyb o fentrau annibynnol sydd yn cynnal ac yn datblygu diwylliant bywiog yma ym Merthyr Tudful. Mae’n wych gweld adeiladau gwag yn cael eu hailddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion.”  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni