Ar-lein, Mae'n arbed amser

Seremoni Swyddogol i ‘Dorri’r Seiliau’ yn Ysgol y Bendigaid Carlo Acutis

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Hyd 2024
BCA

Mae’r gwaith ar Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis (BCA), wedi cychwyn yn swyddogol. Cydnabyddwyd y ffaith hon ddydd Gwener y 25ain o Hydref mewn seremoni oedd yn dathlu torri’r sylfeini. Gweinyddwyd y seremoni gan Archesgob Cymru.

Arweiniwyd y gwesteion mewn gwasanaeth ar y safle ei hun gan yr Archesgob O’Tool, gyda darlleniadau gan ddisgyblion Ysgol y Bendigaid Carlo Acutis yn dilyn wedi hynny. Casglodd westeion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, saff a disgyblion yr ysgol, yn ogystal â thîm o Willmott Dixon a chynghorwyr y prosiect, at ei gilydd i glywed yr anerchiadau.

Bydd y cwmni Willmott Dixon yn ymgymryd â’r gwaith o adeiladu ysgol newydd fydd yn cynnwys 525 o lefydd ysgol cynradd, llefydd meithrin sy’n cyfateb i 63 lle llawn amser a 600 lle ysgol uwchradd.

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis yn gweithredu o bedair gwahanol safle – Campws Sant Aloysius, Campws Sant Illtyd, Campws y Santes Fair, a champws yr Esgob Hedley. Mae’r rhain yn cynnwys tair ysgol gynradd Gatholig ac un ysgol uwchradd Gatholig. Bydd y prosiect hwn i greu adeilad newydd yn sicrhau adeilad ysgol o’r radd flaenaf ar gampws cyfredol Ysgol yr Esgob Hedley. Bydd y trefniant newydd yn caniatáu i’r ysgol weithredu’n gyfangwbl o un safle.

Bydd y datblygiad £52m yn 8,840m2 o faint a bydd yn anelu at weithredu fel ysgol sero net erbyn cwblhad y prosiect yn ystod haf 2027. Bydd yn darparu cyfleusterau dysgu gwych i ddisgyblion o ar draws y fwrdeistref sirol o dair blwydd oed i un ar bymtheg. Bydd yr elfen ysgol uwchradd yn cynnwys ystod o ddosbarthiadau yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer ieithoedd, y celfyddydau, celf a dylunio, a labordai cyfrifiadurol a gwyddonol yn ogystal â stiwdio ddrama a neuadd. Bydd gan yr ysgol gynradd bymtheg ystafell ddosbarth, ysgol feithrin a derbynfa. Bydd yr ysgol wedi ei chategoreiddio’n ‘wych’ gan asesiad BREEAM. Bydd hi’n gweithredu fel sero net a bydd ganddi ystod o nodweddion cynaliadwy gan gynnwys paneli ynni’r haul ar y to. Disgwylir y bydd cam un o’r gwaith wedi ei gwblhau yn 2026 gyda cham dau yn dilyn yn 2027.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Lewis, yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Rydym wedi cyffroi’n lân yn gweld cychwyn y prosiect hwn. Yma yng Nghyngor Merthyr Tudful rydym yn ymwybodol o ba mor bwysig yw’r amgylchedd ddysgu i ddisgyblion. Ein nod yw creu gofod sy’n gwella’r profiad addysgol i bawb sy’n rhan ohono, o’r disgyblion i’r athrawon ac i’r gymuned ehangach. Allwn ni ddim aros i weld effaith gadarnhaol y prosiect hwn.”

Meddai Sarah Hopkins, Pennaeth Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis: “Mae cymuned yr ysgol gyfan wedi ei chyffroi’n lân ynghylch ein hadeilad newydd. Mae ôl eu hoed ar ein hadeiladau cyfredol ac er nad yw’r adeilad ei hun yn creu ysgol, mae ein plant a’n staff yn haeddu amgylchedd sydd wedi ei chreu’n benodol ar gyfer y profiad o ddysgu, rhywle lle gallant ffynnu a derbyn y gofal sydd ei angen arnynt er mwyn iddynt allu cyrraedd eu llawn botensial a roddwyd iddynt diolch i fendith Duw. Rydym yn gweithio’n galed er mwyn gweithredu fel un ysgol, felly bydd bod mewn un adeilad, o’r diwedd, yn ein galluogi ni i barhau gyda’r gwaith gwych rydym yn ei wneud, a gofalu am ein plant yn ystod ei siwrnai addysgol rhwng 3-16.”

Meddai Ian Jones, Cyfarwyddwr gyda Willmott Dixon: “Mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r ysgol, rydym wrth ein bodd bod y prosiect hwn nawr ar y gweill. Rydym yn deall gymaint o effaith gall adeiladau’r ysgol gael ar brofiad y disgyblion a thrwy weithio gyda’n cwsmer, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid rydym yn bwriadu cyflawni’r prosiect hwn gyda chyn lleied o amhariad â phosib ar y disgyblion, yr athrawon a’r gymuned ehangach.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni