Ar-lein, Mae'n arbed amser

Agoriad swyddogol pyllau nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Medi 2024
DSC04026

Ddydd Sadwrn 21 Medi, agorwyd pyllau nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful yn swyddogol yn dilyn eu hadnewyddu a hynny, diolch i fuddsoddiad o £5 miliwn gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyllid Salix a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Cymerodd y fenter gymdeithasol arobryn, Halo Leisure, reolaeth o’r Ganolfan Hamdden ar ran y Cyngor ym mis Mai 2024, gan ddod â dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant hamdden.

Gan weithio mewn partneriaeth â'r Cyngor, mae Halo wedi rheoli ailagor y pyllau yn raddol ers diwedd mis Mai eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter, ar ei ymweliad swyddogol cyntaf ers dod yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Mae heddiw’n ddiwrnod pwysig i ni, gan nodi pennod nesaf partneriaeth y Cyngor â Halo Leisure.

"Ers 25 Mai, cafwyd dros 14,000 o ymweliadau â'r pyllau nofio ac yn yr wythnosau diwethaf ers ailgyflwyno gwersi nofio, rydym wedi mynd o gael dim plant i dros 400 ohonynt yn mynychu’n gwersi nofio. Mae hyn yn mynd yn bell i gydnabod uchelgais y Cyngor a Halo ar y cyd i sicrhau 1,000 o blant yn y rhaglen nofio ym Merthyr Tudful."

Dywedodd Scott Rolfe, Prif Weithredwr Halo Leisure: "Fel elusen gofrestredig rydym yn teimlo’n angerddol am greu cymunedau iachach. Yn ogystal â phyllau nofio, rydym yn gyffrous i gefnogi pobl leol i wneud ymarfer corff ac ymlacio yn ein campfeydd, ein dosbarthiadau ymarfer corff, ein caeau, cyrtiau a’n neuaddau chwaraeon.

"Rydym yn falch i gweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac yn edrych ymlaen at bartneriaeth hir ac iach a fydd yn arwain at hyd yn oed mwy o bobl leol yn bod yn fwy egnïol, yn amlach."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni