Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diogelu’r hen orsaf fysiau wrth baratoi ar gyfer datblygiadau’r dyfodol

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Meh 2021
Merthyr-Tydfil-Bus-Station.jpg

Bydd y gwaith yn dechrau ar godi palisau o gwmpas yr orsaf fysiau gyfredol i ddiogelu’r cyhoedd cyn gynted ag y bydd yn cau nos Sadwrn (12 Mehefin).

Fore trannoeth, bydd y bysiau cyntaf yn gadael cyfnewidfa fysiau newydd Stryd yr Alarch, tra bydd safle Stryd Fictoria yn cael ei ddiogelu dros y tair wythnos nesaf i sicrhau diogelwch wrth baratoi ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol. 

Dynodwyd y safle ar Faes y Clastir (cyn safle’r orsaf fysiau) fel prosiect pwysig o fewn Cynllun ‘Creu Lleoedd’ Canol Tref Merthyr Tudful, sef cynllun meistr 15 mlynedd, a chafodd ei glustnodi ar gyfer defnydd cymysg – masnachol a phreswyl.

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ystyried beth fydd yn cael ei gynnwys yn y datblygiad.  Bydd ymgysylltu â'n busnesau canol dref, gyrwyr tacsi a'r gymuned ehangach yn allweddol i helpu lunio datblygiad y safle.

“Yn y pen draw, caiff hen adeilad yr orsaf ei ddymchwel ac rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer y safle a fydd yn cael eu cyflwyno ar dendr,” dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Masnacheiddio, y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Mae’r Cynllun Creu Lleoedd am adeiladu ar asedau unigryw Merthyr Tudful drwy ddarparu ar gyfer preswyl, swyddfa, hamdden a manwerthu o ansawdd uchel – gyda gwagleoedd cyhoeddus deniadol a rheoli canol tref actif,” ychwanegodd.

“Cafodd y cynllun ei baratoi gan dîm o gynllunwyr trefol, arbenigwyr peirianyddol yn darparu cyngor am drafnidiaeth, ac arbenigwyr eiddo masnachol.

“Mae buddsoddi pellach wedi ei gynllunio ymhellach i’n galluogi ni i ail siapio canol y dref i ymdopi’n well gyda’r cyd-destun ar gyfer manwerthu’r stryd fawr sy’n esblygu’n gyflym.”

  • Bydd yr holl wasanaethau bws gan gynnwys gweithredwyr Stagecoach, First Call Travel, NAT a Peter's Minibus yn trosglwyddo o’r orsaf fysiau gyfredol yn Stryd Fictoria i’r safle newydd. Bydd y safle hwn hefyd yn cynnwys canolfan i Heddlu De Cymru, caffi annibynnol Bradley’s a Milk & Sugar, ciosg coffi parod.  

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni