Ar-lein, Mae'n arbed amser

Yr Ymgyrch NET yn manteisio ar ysbryd y gymuned yng nghyfnod y coronafeirws

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Mai 2020
Operation Net pandemic

Mae un o brosiectau’r Cymoedd sy’n cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, yn gweithio yn ystod y cyfnod clo drwy gynnig help i weithwyr ar ffyrlo a phobl ynysig.

Mae’r Ymgyrch NET - Meithrin, Cymhwyso, Ffynnu - yn fenter a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac mae’n gweithredu ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen. Mae’n cefnogi pobl gyflogedig â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gwaith, neu bobl sy’n meddu ar rwystrau eraill. Y nod yw eu cefnogi i gael cyflogaeth gynaliadwy.

Mae’r prosiect yn cynnig mentora, coetsio a “broceriaeth swyddi” sef paru sgiliau a phrofiad pobl â swyddi gwag. Mae swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i helpu cleientiaid i wella’u hiechyd, yn ogystal â darparu atebion i broblemau’n ymwneud â gofal plant a thrafnidiaeth.

Yn ddiweddar, daeth Ymgyrch NET â gweithiwr oedd ar ffyrlo ac yn ceisio helpu eraill yn ystod y pandemig, i gysylltiad â phreswylydd bregus oedd yn cael ei warchod.

Ar ôl ymddeol fel nyrs yn Ysbyty’r Tywysog Siarl a cholli’i gŵr, daeth Shelagh McCarthy yn wirfoddolwr gyda Chyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf Morgannwg a Radio Ysbyty Merthyr.

“Mae Shelagh wrth ei bodd yn cadw’n heini ac yn teimlo ei bod hi’n gwneud cyfraniad gwerthfawr,” meddai Kay Maybank, Swyddog Cymorth Cyflogaeth y Rhaglen Sgiliau Gwaith i Oedolion. “Roedd hi ar fin dechrau rôl fach dymhorol yn Asda ac yn awyddus i ymuno ag Ymgyrch NET er mwyn hyrwyddo’i phrofiad yn y gweithle.”

Ond roedd cyflyrau iechyd Shelagh yn golygu bod yn rhaid iddi hunanynysu a gwarchod ei hun rhag y coronafeirws.

Ar yr un pryd, cafodd un arall o gyfranogwyr Ymgyrch NET ym Merthyr Tudful, Sylvia Rogers, ei hun ar ffyrlo ac yn awyddus i helpu’i chymuned leol.

Cafodd ei chyfeirio at Gynllun Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful a bellach, mae hi’n helpu Shelagh trwy gasglu siopa a chynnal sgyrsiau rheolaidd â hi.

“Er bod Tîm yr Ymgyrch NET wedi bod yn gweithio gartref, nid yw hynny wedi atal y prosiect rhag cael effaith ar fywydau’r cyfranogwyr dan sylw a’r gymuned,” meddai Kay.

“Mae Sylvia yn berson llawn cymhelliant ac ymroddiad ac yma, mae hi wedi bod yn y sefyllfa orau i wirfoddoli’i gwasanaethau, ei gofal, ei thosturi a’i hewyllys da mewn ffordd ddiogel.

“Mae’r senario hwn yn dangos pobl, prosiectau a phartneriaethau cymunedol gwych yn cydweithio ar eu gorau. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran a chlap enfawr i Sylvia a Shelagh am roi o’u hamser i’w cymunedau a’n GIG rhagorol.”

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni