Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Maer sy’n ymadael yn codi dros £15,000 i elusennau
- Categorïau : Press Release
- 24 Mai 2023

Cododd y Maer sy’n ymadael o Ferthyr Tudful £15,885 i’w ddwy elusen yn ei gyfnod fel Maer yn 2022/23.
Bydd y Cynghorydd Declan Sammon, a drosglwyddodd yr awenau i’r Cynghorydd Malcolm Colbran yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor yr wythnos diwethaf, yn cyflwyno Cancer Aid Merthyr Tudful a Banc Bwyd Merthyr Cynon gyda’r arian a gasglwyd mewn ystod o weithgareddau a digwyddiadau.
Dwedodd Declan: “Roedd yn fraint gwasanaethu fel Prif Ddinesydd y Fwrdeistref Sirol arbennig hon a braint gallu codi arian dros ddwy elusen haeddiannol. Diolch i bawb a gyfrannodd.”