Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dros 100 o blant i gystadlu yn nhwrnamaint gwyddbwyll poblogaidd ysgolion Merthyr

  • Categorïau : Press Release
  • 29 Meh 2026
S&G Chess Competition (2)

Bydd Twrnamaint Gwyddbwyll Ysgolion Merthyr yn dychwelyd Ddydd Gwener 3 Gorffennaf yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais — gyda dros 100 o chwaraewyr ifanc yn cystadlu am dlysau, medalau a’r bri.

Disgwylir i fwy na 100 o blant o ysgolion ledled Merthyr Tudful gymryd rhan yn Nhwrnamaint Gwyddbwyll Ysgolion Merthyr, Ddydd Gwener 3 Gorffennaf, sy'n cael ei gynnal rhwng 9:30am a 3:00pm yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais.

Bellach, yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr yr ysgol, mae'r twrnamaint yn cynnwys cystadleuaeth tîm ysgol a phencampwriaeth unigol - gan roi cyfle i chwaraewyr gystadlu dros eu hysgol yn ogystal ag am anrhydeddau personol.

Bydd y digwyddiad eleni hefyd yn croesawu Llysgennad Gwyddbwyll Stephens a George, Michael Adams; un o chwaraewyr gwyddbwyll gorau erioed y DU. Yn gyn bencampwr yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd ac yn rhif un ym Mhrydain ers amser maith, mae Michael wedi cynrychioli Lloegr ar y lefel uchaf un ers degawdau. Yn ystod y dydd, bydd yn cymryd rhan mewn arddangosfa, gan chwarae sawl cystadleuydd ifanc ar yr un pryd - gan roi cyfle prin i blant lleol brofi eu sgiliau yn erbyn meistr o'r radd flaenaf.

Mae gwyddbwyll yn parhau i chwarae rôl gynyddol bwysig mewn addysg, ledled Merthyr Tudful. Mae rhaglen wyddbwyll Ymddiriedolaeth Elsennol Stephens and George yn gymorth i godi dyheadau a chyfleoedd bywyd i bobl ifanc ac mae wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol trwy ei chynnwys yn rhaglen addysg Gŵyl y Gelli.

Mae'r rhaglen yn defnyddio gwyddbwyll fel offeryn i adeiladu sgiliau bywyd allweddol gan gynnwys ffocws, amynedd, datrys problemau a gwytnwch - cefnogi plant y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth a'u helpu i ddatblygu hyder ac uchelgais.

Dywedodd Helen Hughes, Cydlynydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George: "Mae gwyddbwyll yn offeryn pwerus ar gyfer gwella cyfleoedd bywyd. Mae'n dysgu plant i feddwl am y camau nesaf, aros yn dawel dan bwysau a chredu yn eu gallu i lwyddo. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut mae'n adeiladu hyder, yn gwella canolbwyntio, ac yn ysbrydoli pobl ifanc i anelu'n uwch. Mae gweld cymaint o blant yn cyfranogi a chael cyfleoedd fel chwarae yn erbyn y prif fesitr  yn rhywbeth gwirioneddol arbennig i Ferthyr."

Bydd pob cyfranogwr yn derbyn tystysgrif, gyda medalau yn cael eu dyfarnu ar draws categorïau a thlws yn cael ei gyflwyno i'r tîm ysgol buddugol. Mae'n addo bod yn ddiwrnod llawn a chyffrous o wyddbwyll cystadleuol.

Mae'r twrnamaint wedi denu cefnogaeth busnes lleol, gyda gwerthwr ceir, Thomas a Davies Citroën ymhlith y noddwyr sy'n cefnogi'r digwyddiad eleni. Mae'r prif nawdd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd.

Mae'r digwyddiad hefyd wedi denu diddordeb yn y cyfryngau cenedlaethol, gyda BBC Cymru yn mynychu i arddangos pwysigrwydd y twrnamaint ac amlygu ei effaith ar bobl ifanc a sut mae'n helpu i godi cyfleoedd bywyd ar draws y gymuned.

Mae'r trefnwyr yn gwahodd cymuned ehangach Merthyr i ddod i gymeradwyo'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr gwyddbwyll wrth iddynt frwydro ar draws y byrddau.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni