Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysgol Gynradd Pantysgallog yn derbyn Gwobr AUR Parchu Hawliau Mewn Ysgolion
- Categorïau : Press Release
- 06 Chw 2024

Mae Ysgol Gynradd Pantysgallog wedi bod yn cydweithio ag UNICEF yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf ac yn ddiweddar dyfarnwyd y Wobr Aur fawreddog iddi ar ôl gweithio drwy’r gwobrau Efydd ac Arian.
Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu gan UNICEF yn y DU i ysgolion sydd wedi ymwreiddio hawliau plant ym mholisiau, ymarfer ac ethos yr ysgol.
Er mwyn i’r Wobr Aur gael ei dyfarnu, mae ysgolion yn cael eu hasesu gan Ymgynghorydd Proffesiynol UNICEF sydd yn edrych ar waith parchu hawliau’r ysgol a’i effaith drwy ymwreiddio hawliau’r plentyn ym mywyd yr ysgol.
Ers iddynt gyflawni’r Wobr Aur, gofynnwyd i’r ysgol baratoi astudiaeth achos sydd yn ddiweddar wedi mynd yn fyw ar wefan UNICEF gan gyrraedd ysgolion a phobl ifanc, ledled y byd.
Dywedodd Mrs Hannah Trinder, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Pantysgallog, “Mae’r Aur yn cydnabod cyflawniad yr ysgol gyfan. Mae’r staff a’r disgyblion wedi cydweithio er mwyn ymwreiddio egwyddorion UNICEF ym mhopeth ym Mhantysgallog. Mae’r egwyddorion yn sicrhau fod Pantysgallog yn lle diogel lle y mae gan staff a disgyblion barch at ei gilydd.
“Y Wobr Aur yw’r cam uchaf yn y Rhaglen Parchu Hawliau Mewn Ysgolion. Mae’n rhaid i ni yn awr sicrhau fod y polisiau a’r ymarferion yn cael eu mabwysiadu a’u cynnal.”
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Jones, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Addysg, “Am gyflawniad gwych a haeddiannol ar gyfer ysgol arbennig. Llongyfarchiadau i’r disgyblion a’r staff am eu brwdfrydedd â hawliau a lles y disgyblion.”
Gallwch weld astudiaeth achos Pantysgallog yma: Pantysgallog Primary School - Wellbeing - Rights Respecting Schools Award