Ar-lein, Mae'n arbed amser

Newidiadau i’r Ffordd Rydym yn Ail-gylchu Papur a Chardfwrdd o’r 5ed o Hydref 2026

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Medi 2026
Paper and card 2 Welsh

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn newid ei wasanaeth ail-gylchu er mwyn ei wneud yn haws i drigolion ail-gylchu.

O ddydd Llun y 5ed o Hydref 2026, ni fydd yn rhaid i drigolion Merthyr wahanu papur a chardfwrdd er mwyn eu hail-gylchu.

Gellir rhoi’r deunyddiau gyda’i gilydd yn yr un blwch ail-gylchu.

Gwnaed y newid hwn yn bosib oherwydd bod peiriant ail-gylchu’r Cyngor erbyn hyn gallu derbyn papur a chardfwrdd yn gymysg heb iddynt amharu ar safon uchel yr ail-gylchu.

Buddianau’r Newid Hwn

  • Mae’n haws i drigolion ail-gylchu.
  • Mae angen storio llai o focsys a bagiau yn y tŷ.
  • Mae mwy o le ar y cerbydau casglu
  • Gwasanaeth casglu ail-gylchu mwy effeithlon

Beth Sydd yn Rhaid i Chi ei Wneud

O’r 5ed o Hydref 2026:

  • Gosodwch bapur a chardfwrdd gyda’i gilydd yn yr un blwch ail-gylchu.
  • Parhewch i gyflwyno’r holl ddeunyddiau ail-gylchu eraill, yn y modd arferol.
  • Rhowch eich ail-gylchu allan ar y diwrnod casglu arferol.

Bydd y newid syml hwn yn helpu i wella’r gwasanaeth ail-gylchu wrth barhau i gefnogi ymrwymiad y Cyngor i gynaliadwyedd a pherfformiad ail-gylchu da.

 Am ragor o wybodaeth ewch at ein gwefan: https://www.merthyr.gov.uk/recycling?lang=cy-GB&

Anfonwch e-bost atom

wasteservices@merthyr.gov.uk

Rhif Ffôn: 01685725000

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni