Ar-lein, Mae'n arbed amser
Copïau papur o’r arolwg ymgynghoriad ar yr ysgol Gatholig ar gael yn lleol
- Categorïau : Press Release
- 01 Chwef 2022

Mae copïau papur o’r arolwg barn yr ymgynghoriad ar yr opsiynau wedi ei diwygio ar gyfer yr ysgol Gatholig WG 3-16 ar gael o siopau, adeiladau cyhoeddus ysgolion ac eglwysi.
Mae copïau o’r arolwg barn a’r dogfennau cefnogi i’w gweld yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol y Gurnos a Chanolfan Breswylwyr Galon Uchaf.
Mae siop Premier ac One Stop yn y Gurnos, Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley a’r ysgolion cynradd sy’n bwydo: Ysgol y Santes Fair, Ysgol Sant Illtyd yn Nowlais, Ysgol y Sant Aloysius yn y Gurnos ac Eglwys St Benedict yn Ynysowen hefyd gyda’r pecynnau a’r arolygon barn.
Mae copïau ar gael trwy’r post i breswylwyr- ffoniwch 01685 725000 neu e-bostiwch 3-16vaschool@merthyr.gov.uk
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddydd Iau Chwefror 17, a gellir cwblhau'r arolwg barn ar-lein a gweld manylion y cais yn cynnwys y cynlluniau trwy ymweld â: https://www.merthyr.gov.uk/vaschool