Ar-lein, Mae'n arbed amser
Parc Taf Bargoed yn derbyn statws Baner Werdd am y 12fed blwyddyn yn olynol.
- Categorïau : Press Release
- 24 Gor 2023

Cyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus yn ddiweddar fod Parc Taf Bargoed wedi ennill statws y Faner Werdd unwaith eto – ei 12fed flwyddyn yn olynol ers derbyn y wobr fawreddog gyntaf yn 2011.
Hefyd yn derbyn y Wobr mae Parc Cyfarthfa, Mynwent Aberfan a Pharc Thomastown, yn ogystal â thri ar ddeg o brosiectau cymunedol, i gydnabod eu hymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau gwych i ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdogaeth: “Mae ennill y Faner Werdd i’n parciau a’n mynwentydd yn gyflawniad gwirioneddol wych, ac yn dyst i ymroddiad ein staff a’n gwirfoddolwyr sydd wedi creu’r mannau gwyrdd hyn. Trwy eu hymdrechion diflino, mae'r ardaloedd hyn wedi'u trawsnewid yn noddfeydd croesawgar, gan ddarparu mannau tawel i drigolion ymlacio, a chael blas o'r awyr agored.
“Mae’r cyflawniad nid yn unig yn arwydd o harddwch yr ardaloedd hyn ond hefyd yn amlygu eu rôl hanfodol wrth hyrwyddo lles ein cymuned.
“Llongyfarchiadau hefyd i bob grŵp cymunedol sydd wedi rhoi o’u hamser i gynnal eu mannau gwyrdd lleol. Diolch."
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae gwobr Y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd yn cael eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.
Mae’r nifer uchaf erioed o barciau a mannau gwyrdd ar draws Cymru wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i hedfan y Faner Werdd flaenllaw.
Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae mynediad am ddim i ardaloedd gwyrdd o safon uchel a diogel mor bwysig ag erioed. Mae ein safleoedd penigamp yn chwarae rôl allweddol yn iechyd meddwl a chorfforol pobl, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur.”
“Mae’r newyddion bod 280 o barciau yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.”
Mae rhestr lawn o’r enillwyr ar gael ar wefan keepwalestidy.cymru