Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofyn i rieni a gwarcheidwaid plant ifainc (0-7 oed) am eu barn ynghylch cymorth
- Categorïau : Press Release
- 06 Rhag 2021

Rydyn ni'n gofyn i rieni a gwarcheidwaid plant hyd at 7 mlwydd oed yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg i lenwi arolwg byr am eu profiadau nhw o'r cymorth sydd ar gael trwy gyfnodau gwahanol o fywyd eu plentyn. Mae'r arolwg yn gofyn sut hoffai rhieni glywed am, neu fynegi eu barn ar y cymorth sy'n cael ei ddarparu. Mae modd ichi lenwi'r arolwg ar-lein.
Bwrdd Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar Cwm Taf Morgannwg sy'n cynnal yr arolwg. Mae cynrychiolwyr o'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, gan gynnwys aelodau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ar y bwrdd yma. Mae'r Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu ardaloedd awdurdodau lleol i roi ar brawf ffyrdd newydd o weithio, i wella'r cymorth gaiff ei roi i deuluoedd â phlant yn y blynyddoedd cynnar. Byddwn yn trafod yr ymatebion yn rhan o gynllun 3 blynedd ar gyfer gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar ar draws y rhanbarth