Ar-lein, Mae'n arbed amser

Partneriaid yn teithio i Ferthyr Tudful i drafod syniadau am broject llwybrau Ewropeaidd cyffrous

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Gor 2022
Trail Gazers visit

Mae partneriaid o Awdurdodau Lleol, twristiaeth a phrifysgolion mewn menter amgylcheddol a thwristiaeth ryngwladol wedi teithio I Ferthyr Tudful I ddatblygu cynlluniau ar gyfer y project- a hefyd ymweld â rhai o brif atyniadau hanesyddol a phrydferth y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r Project Ardal yr Iwerydd a ariennir gan yr UE o’r enw ‘Cais syllu ar Lwybrau’ wedi ei sefydlu i annog pobl yn y DU, Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc ‘oddi ar y llwybrau ac i gymunedau lleol a gwledig er mwyn trochi mewn profiadau bywyd, coginio a diwylliant newydd.’

Mae Syllu ar Lwybrau yn ceisio ymchwilio effaith y buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod dros y blynyddoedd o ddatblygu llwybrau cerdded a hamdden ar hyd ardal yr Iwerydd ar sicrhau cynaladwyedd cymunedau gwledig a sut gellir ehangu ar yr effaith.

Croesawodd y Cyngor Bwrdeistref bartneriaid o Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Sbaen i drafod datblygu llwybrau cymunedol a darparu model arfer orau ar sut y gall y llwybrau fod yn gatalydd ar gyfer datblygiad hir dymor cymunedau bach gwledig yn Ardal yr Iwerydd yr UE.

Mae’r Cyngor yn arwain ar elfen ’Rhannu Gwybodaeth’ y project ac wedi datblygu ‘erfyn twristiaeth rithwir’, templed ar gyfer datblygiad Cynllun Llwybrau Cymunedol pob partner, a deunyddiau hyrwyddo twristiaeth fel taflenni, mapiau llwybrau, baneri canol tref a phroject ‘Merthyr Rhithwir 360’

Yn ystod yr ymweliad â Merthyr, mwynhaodd y partneriaid ymweliadau â Thraphont Pontsarn, Ffwrneisi Cyfarthfa a thaith gerdded o Ffynnon Dwyn I’r Dre far y Daith Taf gyda’r tywysydd, yr hanesydd lleol Huw Williams.

Cefnogir Syllu ar Lwybrau gan Gronfa Ddatblygiad Rhanbarthol Ewrop gyda 10 partner o wahanol ardaloedd o ranbarth yr Iwerydd. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor Sir Donegal, Municipio de Viana do Castelo (Portiwgal), Dirección General de Protección de la Naturaleza (Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol yn erbyn Newid Hinsawdd, Yr Ynysoedd Dedwydd),Prifysgol Glasgow Caledonian, Prifysgol Ulster, Ville de Louvigné du Désert (Comiwn, Ffrainc), Navarra De Suelo Y Vivienda SAU (cwmni datblygiad cynaliadwy, Sbaen), Cyngor Sir Sligo a Phrifysgol yr Algarve, (Portiwgal).

Dwedodd Arweinydd y Project, Mary Mc Bride, o’r Prif Bartner, Cyngor Sir Donegal: “Profodd yr ymweliad â Merthyr Tudful yn un gwerthfawr iawn, gan gyflwyno cyfleoedd i gysylltu â chydweithio gydag aelodau eraill Syllu ar Lwybrau o ranbarthau eraill Ardal yr Iwerydd a budd ddeiliaid allweddol eraill.

“Mae’r Daith Taf yn gaffaeliad anhygoel ac rwy’n gobeithio y cewch lawer cyfle arall i dyfu a datblygu'r posibiliadau.

Dwedodd Aelod y Cabinet y  Cyngor Bwrdeistref Sirol dros Adfywio a Diogelwch y Cyhoedd y Cyng. Geraint Thomas: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld cynnydd yn niferoedd y bobl yn dewis treulio ei gwyliau yn mwynhau profiadau mwy ystyrlon a phersonol mewn lleoliadau mwy diarffordd na lleoliadau twristaidd poblogaidd arferol.

“Ein bwriad ym Merthyr Tudful yw ffocysu ar y Daith Taf a’r myrdd o gyfleodd y gall ei gynnig- nid yn unig i bobl fwynhau'r golygfeydd godidog, ond hefyd i helpu busnesau lleol wneud y mwyaf o’r cynnydd mewn ymwelwyr.”

Am fwy o wybodaeth am y project neu i gymryd rhan, cysylltwch gyda visit@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni