Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ysgol Uwchradd Pen y Dre yn Ennill Gwbor Aur Cymraeg Campus.
- Categorïau : Press Release , Education
- 11 Meh 2021

Ym mis Mai 2021 derbyniodd Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful Gwobr Aur Cymraeg Campus. Camp anhygoel i’w gyflawni.
Mae Cymraeg Campus yn rhan o’r fframwaith Siarter Iaith sy’n rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. Nod Cymraeg Campus yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg tu fewn a tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Fel arfer, mae’n rhaid i ysgol gyflawni’r wobr efydd ac arian yn gyntaf er mwyn ennill y wobr aur. Fodd bynnag ar ôl cael asesiad am y wobr efydd, roedd y safonau yn Ysgol Uwchradd Pen y Dre eisoes yn bodloni’r meini prawf i gael y wobr arian.
Yn ystod yr ymweliad, roedd Chris Newcombe a Julie Bowhay o Gonsortiwm Canolbarth y De wrth eu boddau gyda’r defnydd o’r Gymraeg ar draws yr ysgol. Y mae’n rhan annatod o bob adran ac mae pob aelod o staff yn cyfrannu at y gwaith. Dywedodd Sue Walker, y Prif Swyddog Addysg “Mae datblygiad y Gymraeg ym Mhen y Dre yn strategaeth ysgol gyfan a rhaid ardystio angerdd ac ymroddiad yr holl uwch arweinwyr yn enwedig Pennaeth y Gymraeg, Mark Morgan, a hefyd y disgyblion gyda’r Criw Cymraeg.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Geraint Thomas, sef Hyrwyddwr y Gymraeg y Cyngor, “Llongyfarchiadau i bawb ym Mhen y dre ar yr orchest ffantastig hon. Mae’n deyrnged i’r ysgol am ei holl waith caled ac yn gwbl haeddiannol.”