Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion Pen y Dre yn cyrraedd y brig yn yr Eisteddfodau

  • Categorïau : Press Release , Schools
  • 03 Tach 2021
IMG-20211103-WA0025

Heddiw, bu Ysgol Pen y Dre yn dathlu ei llwyddiant diweddar yn Eisteddfodau’r Rhondda a’r Urdd.

Ym mis Mehefin eleni, bu 13 o ddisgyblion yn cystadlu yn yr Eisteddfodau mewn cystadlaethau canu, actio, siarad cyhoeddus, trafod pynciau llosg a rhyddiaith. Yr enillwyr a’r disgyblion a fu’n cymryd rhan oedd Millie Rae Hughes, Katie O’Keefe, Millie Gunter, Eve Martin, Lewys James, Cameron James, Lohan Tucker, Alisha Church, Tom Meredith, Hollie Fielding, Millie Kate Barrett, Regan Patterson a Luciann Evans

Yn y digwyddiad, rhoddwyd tystysgrifau Maerol i'r disgyblion i ddathlu eu llwyddiannau ac ymwelodd y Cynghorydd Lisa Mytton, y Cynghorydd Geraint Thomas, y Cynghorydd a Maer Malcolm Colbran a'r Cynghorydd Chris Davies. Roedd y Cynghorydd Geraint Thomas wrth ei fodd i fod yn bresennol a dywedodd: “Mae’n gyflawniad gwych ac yn brawf fod gan blant a phobl ifanc Merthyr Tudful dalentau gwych yn y Gymraeg. Rwy’n falch iawn o’u llwyddiannau ac yn hynod falch i weld fod Ysgol PenyY Dre yn datblygu ei strategaeth iaith, yn eang.”

Mae’r enilliad gwych hwn yn codi o lwyddiannau’r ysgol fel yr ysgol uwchradd gyntaf yn rhanbarth Canol y De i ennill Gwobrau Aur Campws Cymraeg. Mae llwyddiannau Pen y Dre yn enghraifft o sut y gall yr iaith Gymraeg gael ei defnyddio’n ehangach yn yr ysgol ac yn y gymuned gan hyrwyddo hunaniaeth Cymru. Dyma un o weledigaethau Strategaeth Codi Safonau, Codi Dyheadau.   

Dywedodd Lisa Mytton: “Roeddwn mor falch i fod yn bresennol yn y digwyddiad yn Ysgol  Pen y Dre, heddiw. Roedd yn wych gweld sut y mae’r ysgol wedi datblygu a defnyddio’r Gymraeg yn unol â’r strategaeth. Mae gennym bobl dalentog iawn yma ym Merthyr Tudful ac rwy’n falch ohonynt hwy a’r ysgol.”   

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni