Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prosiect arloesol sy’n mynd i’r afael â digartrefedd yn nodi ei ben-blwydd cyntaf

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Chw 2020
Housing First anniversary event

Mae prosiect arloesol sy’n cynorthwyo i leihau niferoedd y bobl ddigartref ym Merthyr Tudful newydd nodi ei ben-blwydd cyntaf.

Mae Prosiect Tai yn Gyntaf y Cyngor Bwrdeistref Sirol sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Byddin yr Iachawdwriaeth yn ddull newydd o fynd i’r afael â chysgu allan ac wedi bod yn llwyddiannus yn yr Unol Daleithiau, mewn rhannau o Ewrop ac yn y DU.

Mae’r fenter yn caniatáu i’r sawl sy’n cysgu allan ac sydd am gyfranogi gael eu symud yn uniongyrchol o’r strydoedd i’w cartrefu eu hunain heb iddynt orfod mynd i mewn i lochesi ar gyfer y digartref. Maent yna’n derbyn cymorth er mwyn ymdrin â phroblemau fel cam-drin sylweddau neu broblemau iechyd meddwl.

Ers i’r cynllun ddechrau, mae staff wedi cynorthwyo 72 o gleientiaid gan atgyfieirio rhai ohonynt at asiantaethau, hosteli, ysbytai, canolfannau adsefydlu ac yn ôl i’w teuluoedd. Ar gyfartaledd, mae cleientiaid yn derbyn 14 awr o gyswllt wyneb yn wyneb yn wythnosol unwaith y byddant wedi symud i’w heiddo.

Trefnodd Byddin yr Iachawdwriaeth ddigwyddiad dathlu ym Merthyr Tudful er mwyn nodi blwyddyn gyntaf y fenter ac roedd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o Gabinet y Cyngor ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd a Dawn Bowden, AC Merthyr Tudful a Rhymni yn bresennol.

Dywedodd Emma Paynter, Rheolwr Rhanbarthol Cynorthwyol Uned Gwasanaethau Digartrefedd Byddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer Cymru a’r Gorllewin: “Mae’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn gan y bobl yr ydym yn gweithio â hwy ar Tai yn Gyntaf Merthyr Tudful wedi bod yn anhygoel; mae bywydau wedi cael eu trawsffurfio. Mae pobl yn symud i gartrefi newydd - cartrefi y gallant eu dodrefnu a gwahodd teulu a ffrindiau draw atynt am de. Gallant weld bod ganddynt ddyfodol.

“Mae’n partneriaid wedi bod wrth ein hochr, bob cam o’r ffordd ac rydym wedi cydweithio er mwy sicrhau fod Tai yn Gyntaf Merthyr Tudful yn gosod pobl yn gyntaf ac rydym yn buddsoddi popeth er mwyn creu’r amgylchedd a’r cyfle gorau i unigolion wireddi eu potensial a’u breuddwydion.”

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Mae Tai yn Gyntaf yn wasanaeth tai heb unrhyw amodau’n perthyn iddo. Mae’r unigolyn yn derbyn cartref ac yna cymorth i gefnogi ei anghenion. Rwy’n falch y gallwn yn awr gefnogi’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac rwy’n estyn fy niolch i’n swyddogion ac i Fyddin yr Iachawdwriaeth er mwyn sicrhau y gallwn wneud hyn.”

Dywedodd Dawn Bowden AC: “Diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, mae Tai yn Gyntaf yn ffurfio un rhan o’r jig-so ac yn ceisio estyn allan a chynorthwyo pobl sydd mewn angen. Mae mwy i’w wneud o ran darparu tai a sicrhau fod y tai yn rhai fforddiadwy i’w rhentu. Fodd bynnag, mae Tai yn Gyntaf yn gweithio ac yn gam pwysig ymlaen.”

Astudiaeth Achos Tai yn Gyntaf Merthyr Tudful – yn ôl Byddin yr Iachawdwriaeth

Yn ôl gŵr o Ferthyr Tudful a ddaeth yn ddigartref wedi i gamdriniaeth alcohol chwalu ei fywyd, mae gwasanaeth tai yn y dref wedi rhoi sefydlogrwydd a gobaith iddo.

Mae Tai yn Gyntaf Merthyr Tudful yn symud pobl sydd wedi bod yn ddigartref i’w tai eu hunain ac mae timau o arbenigwyr wrth law i gynnig cymorth arbenigol iddynt.

Mae’r Gwasanaeth yn cael ei redeg gan Uned Gwasanaethau Digartrefedd Byddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a hynny ers Hydref 2018.

Mae Tyler* yn awr yn rhan o raglen Tai yn Gyntaf Merthyr Tudful a dechreuodd yfed alcohol yn gymdeithasol â chydweithwyr pan oedd yn gweithio ar safleoedd adeiladu.

Dechreuodd Tyler gyrraedd ei waith yn parhau’n feddw ers y noson gynt.

“Byddwn yn mynd allan, y rhan fwyaf o nosweithiau gyda’r bechgyn o’r safle ac i ddechrau, ’roedd yn llawer o hwyl ond wrth edrych yn ôl, gallaf nawr weld fy mod i allan o reolaeth. Byddwn yn dihuno ac yn ceisio gwaredu effaith alcohol y noson gynt â brecwast wedi’i ffrio ac yn yfed coffi er mwyn aros yn effro,” meddai.

Wedi i’r gwaith adeiladu ddod i ben, symudodd Tyler i fyw at ei dad a dechrau yfed yn ystod y dydd.

“Roeddwn yn aros gyda fy nhad ar y pryd a dyna phryd y dechreuais i brynu caniau i’w hyfed yn ystod y dydd - lager cryf o wlad Pwyl.” Roeddwn yn chwilio am waith ac am fy lle fy hun i fyw a doedd gen i ddim llawer i’w wneud ar y pryd. Roeddwn yn yfed hyd at 20 can bob dydd,” meddai Tyler.

Rhoddodd ei yfed trwm bwysau mawr ar ei berthynas â’i dad a dechreuodd gysgu allan.

“Doedd byw gyda dad jyst ddim yn gweithio. Un diwrnod, mi ddaeth i mewn i’r ystafell fyw pan roeddwn i yno, wedi fy amgylchynu â chaniau. Doeddwn i ddim am gwympo mas ag ef na’i frifo felly rhoddais fy allweddi iddo a cherdded allan.”

“Dechreuais gysgu allan ym Mhont-y-pŵl ac yng Nghaerdydd am oddeutu wyth mis. Ymosododd rhywun arnaf un noson pan roeddwn yn cysgu allan a doedd e ddim yn deimlad braf, gwybod nad oedd gen i unman i fynd.”

Pan ddychwelodd Tyler i Ferthyr, cafodd lety dros dro gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dyma pryd y daeth i gysylltiad â rhaglen Tai yn Gyntaf Merthyr Tudful.

“Pan ddechreuais â Tai yn Gyntaf, roeddwn yn teimlo fy mod yn symud ymlaen unwaith yn rhagor â fy mywyd ac roeddwn yn gwybod y byddai’n gam mawr ymlaen i mi. Mae staff Tai yn Gyntaf yn arbennig ac roeddent yn gymorth mawr i mi yn trefnu fy mudd-daliadau, cofrestru â meddyg teulu a rhoi cymorth emosiynol i mi.

“Mae gen i strwythur a sefydlogrwydd yn fy mywyd ac o hyn ymlaen, dim ond gwella all pethau. Rwy’n teimlo’n dda nawr - gallaf fynd adref, cloi’r drws, cynnau’r gwres canolog, coginio bwyd ac edrych ar DVD. Rwy’n gwybod mai dyma fy nghartref. Rwy’n teimlo fy mod yn dringo’r ysgol a bod bywyd yn gwella,” meddai Tyler.

*Rydym wedi newid enw Tyler er mwyn diogelu pwy ydyw.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni