Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymwelwch â ni rywbryd arall

  • Categorïau : Press Release
  • 24 Medi 2020
Cyfarthfa-Park.jpg

Wrth i gyfyngiadau symud lleol ddod i rym mewn ardaloedd ledled y DU, mae tri Awdurdod Lleol yn Ne Cymru, yn ogystal â'r Bwrdd Iechyd lleol a'r Heddlu, yn annog darpar ymwelwyr â'r ardal i ddod yn ôl rywbryd eto.

Ers dydd Mawrth 22 Medi, mae cyfyngiadau symud lleol ar waith yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu nad oes modd i drigolion adael eu hardal leol oni bai bod gyda nhw esgus rhesymol, megis mynd i'r gwaith lle nad oes modd gweithio gartref. Mae hefyd yn golygu nad oes modd dod i mewn i'r ardaloedd yma at ddibenion hamdden. Rydyn ni ar gau i ymwelwyr. Ymwelwch â ni rywbryd eto.

Cyhoeddodd Cynghorau Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru, ble yn ddiweddar i drigolion sy'n byw yn yr ardal ac ymwelwyr posibl. Neges y ple oedd bod rhaid glynu wrth gyfyngiadau symud lleol er mwyn atal lledaeniad COVID-19 a pheidio â rhoi gormod o bwysau ar y GIG. 

Mae'r rhanbarth wrth galon De Cymru, gyda rhai atyniadau allweddol i ymwelwyr megis tref glan-môr Porthcawl lle mae nifer o westai a safleoedd carafanau; Bike Park Wales, sy'n gartref i ddetholiad gorau a mwyaf amrywiol y DU o lwybrau beicio mynydd pob tywydd; rhannau o Lwybr Arfordir Cymru, a nifer o lwybrau cerdded yng Nghymoedd Rhondda a Chynon, rhannau o Wlad y Rhaeadrau gan gynnwys llwybr Sgwd yr Eira, yn ogystal â rhai rhannau deheuol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r cyfyngiadau symud lleol yma wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gadw trigolion yn ddiogel yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o COVID-19 ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn golygu bod cyfyngiadau mwy llym ar waith yn yr ardaloedd yma, o'u cymharu ag ardaloedd eraill Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Rydyn ni'n gwybod bydd y newyddion yma, o bosibl, yn peri siom i'r rheiny a oedd yn bwriadu aros yn yr ardal leol dros yr wythnosau nesaf. Serch hynny, mae gyda ni ddyletswydd i atal COVID-19 rhag lledaenu yn ein cymunedau a'r wlad gyfan.

“Mae'r feirws yn dechrau ail-afael sy'n destun pryder, a hynny ar ôl i drigolion Rhondda Cynon Taf a'r rhanbarth gyfan weithio ar y cyd i'w leihau. Mae pobl wedi gwneud cymaint o ebyrth hyd yn hyn, ac mae ein cynhalwyr a staff y GIG wedi gweithio'n ddiflino trwy gydol y cyfnod yma. Allwn ni ddim gadael i'w hymroddiad fynd yn wastraff.

Rydyn ni'n gweithio gyda busnesau lleol, megis darparwyr llety, i sicrhau eu bod nhw'n deall yr angen i gydymffurfio â'r cyfyngiadau yma, cadw trigolion yn ddiogel a sut mae modd aildrefnu gwyliau ymwelwyr â'r ardal ar adeg sy'n fwy diogel. Rydyn ni eisiau croesawu ymwelwyr i'n hardal, ond ar adeg ddiogel yn unig.

“Fyddwn ni ddim yn goddef ymwelwyr o'r tu allan i bob ardal leol sy'n anwybyddu'r cyfyngiadau y mae rhaid i drigolion fyw gyda nhw ac sy'n bygwth ein llwybr at leihau trosglwyddiad y feirws. Bydd ein swyddogion gorfodi yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru i sicrhau nad oes pobl, na ddylen nhw fod yma, yn yr ardal. Does dim dwywaith amdani – byddwn ni'n cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw fusnesau nad ydyn nhw'n cydymffurfio â mesurau cyfyngiadau symud lleol.”

Meddai'r Cynghorydd Kevin O'Neil, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Nid ar chwarae bach y mae penderfynu cyflwyno cyfyngiadau mwy llym; dyma fesur hanfodol i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

“Mae Merthyr Tudful ar gau i dwristiaeth. Byddwn i'n annog unrhyw un o'r tu allan i'r ardal, a oedd yn bwriadu ymweld ag un o'n hatyniadau lleol, i ohirio cynlluniau a dod rywbryd eto pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.  Byddwn ni wrth ein boddau i'ch croesawu chi'n ôl i'n bwrdeistref sirol hardd rywbryd eto.

“Wedi dweud hynny, mae Merthyr Tudful yn borth i'r Bannau Brycheiniog o nifer o ardaloedd yn Ne Cymru ac mae'r A470 yn parhau i fod ar agor. Yn syml, gofynnwn ni i'r rheiny sy'n teithio trwy'r fwrdeistref sirol osgoi stopio yma, lle bo modd.

Meddai'r Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Allwn ni ddim atal bod yn effro i'r Coronafeirws. Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r ardaloedd diweddaraf lle mae cyfyngiadau newydd bellach yn angenrheidiol. Mae'n hanfodol i bobl gydnabod nad yw'r pandemig wedi dod i ben.

“O safbwynt Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae hefyd yn hynod bwysig i bobl beidio â theithio nac ymgynnull mewn grwpiau mawr ar gyfer achlysuron megis Gŵyl Elvis sydd wedi'i chanslo. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid, gan gynnwys Heddlu De Cymru, i sicrhau nad oes torfeydd o bobl, sydd fel arfer i'w gweld y penwythnos yma, yn ystod y cyfnod yma.

“Meddyliwch eilwaith, cadw draw a chadw'n ddiogel.”

Mae modd gweld manylion llawn y cyfyngiadau symud lleol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yma: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni