Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bwytai poblogaidd Pontmorlais yn ymuno yn hwyl yr ŵyl chilli
- Categorïau : Press Release
- 21 Meh 2022

Mae rhai o dai bwyta, tafarndai a chaffis mwyaf poblogaidd y dref wedi ymuno yn yr hwyl wrth i’r ŵyl Chilli ddychwelyd yr wythnos nesaf.
Bydd ‘Taith Chilli Pontmorlais’ a gyllidir gan Dreflun Dreftadaeth - cynllun grantiau gwella adeiladau hanesyddol sy’n rhedeg rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) - yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr i’r ŵyl flynyddol - i flasu ryseitiau yn cynnwys chilli dan do, yn dilyn crwydro'r stondinau amrywiol ar Sgwâr Penderyn ddydd Sadwrn Mehefin 25ain.
Mae tri o’r chwe lleoliad wedi agor yn y flwyddyn ddiwethaf: bwyty hynod lwyddiannus The Mine a Castelany’s, Gwesty Castell Morlais a’r Tiger Inn yn ychwanegu chilli i’w bwydlen am y dydd.
Yn ogystal â Gwesty’r Anchor, a busnesau eraill ar y daith, Caffi Soar yng Nghanolfan a Theatr Soar, a’r bwyty Portiwgaleg boblogaidd Portugalles, sydd hefyd yn ychwanegu ‘gwres’ i’r arlwy.
Y math o fwyd a diod ar gael bydd credes chilli, toasties a choctels yn yr Anchor, Cyw iâr Pupur a Halen a Chilli yn y Mine a Castelanys, saws chilli Tinboeth yng Nghaffi Soar, jam chilli a chaws yn y Castell Morlais, Cyw iâr Piri Piri yn Portugalles, a choctels Chilli Ciwba, Margaritas Jalapeno a chwrw Mecsicanaidd yng Ngwesty’r Tiger.
Bydd y Fiesta Chilli sy’n dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019 oherwydd y pandemig yn croesawu cynhyrchwyr chilli gorau'r DU i arddangos eu cynnyrch yn cynnwys saws coginio naga, planhigion chilli, siocled a nwyddau chilli eraill.
Mae mynediad am ddim rhwng 10 am a 5pm,a dim ond £1 yw cost parcio ym meysydd parcio talu ac arddangos y dref.