Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae ffilmiau pwerus yn dal ehangder y gefnogaeth y gall Cysylltu Bywydau ei ddarparu

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Meh 2026
Picture2 (1)

Yn ystod yr Wythnos Cysylltu Bywydau hon rydym yn falch i rannu cyfres o ffilmiau pwerus gan Cysylltu Bywydau, De-ddwyrain Cymru, sy'n dod â phrofiadau go iawn yn fyw ac sydd yn cynnig cipolwg gonest ac ysbrydoledig ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd pobl yn rhannu eu bywydau a'u cartrefi. Mae'r fideos yn cynnwys pobl sy'n cael eu cefnogi trwy Cysylltu Bywydau, gofalwyr Cysylltu Bywydau a gweithwyr cynllun; pob un yn myfyrio ar yr effaith y mae Cysylltu Bywydau wedi'i chael ar eu bywydau.

Mae cynlluniau Cysylltu Bywydau yn dod â phobl sydd angen cymorth ynghyd gyda gofalwyr Cysylltu Bywydau i rannu bywyd cartref, teuluol a chymunedol. Ledled Cymru a'r DU, mae Cysylltu Bywydau yn parhau i helpu pobl gyflawni rhagor o annibyniaeth, hyder a chysylltiad.

"Gyda'n gilydd – ni yw Cysylltu Bywydau!"

  

Gemma – cyflwyniad i Cysylltu Bywydau

"Nid ydym yn darparu gofal yn unig, rydym yn creu teuluoedd, cyfeillgarwch a chymunedau sy'n ffynnu gyda'n gilydd."

Mae Gemma, un o weithiwr Cysylltu Bywydau yn tynnu sylw at bwysigrwydd derbyn y gefnogaeth gywir i ddatblygu hyder a byw bywyd ar eich telerau eich hun. Mae Cysylltu Bywydau yn creu cyfleoedd i bobl fynd ar drywydd eu nodau tra'n parhau i fod yn gysylltiedig ag amgylchedd cartref, cefnogol.

Gwyliwch ffilm Gemma: https://youtu.be/oHvKssYDQlg (ymgorffori)

 

Stori Mikaela

Mae Mikaela, gofalwr Cysylltu Bywydau a Mam i dri o blant, yn rhannu ei phrofiadau o fywyd gyda Cysylltu Bywydau a'r effaith gadarnhaol y gall cymorth personol ei chael ar les, annibyniaeth a bywyd bob dydd. Mae ei stori yn atgof fod y canlyniadau gorau yn aml yn cael eu cyflawni trwy berthnasoedd gwirioneddol ac ymdeimlad cryf o berthyn.

"Maen nhw [y bobl y mae'n eu cefnogi] wedi dod yn rhan hanfodol o'n teulu ac mae fy mhlant yn tyfu i fyny gan wybod bod pawb yn unigryw ac mae hynny'n hollol normal."

Gwyliwch stori Mikaela: https://youtu.be/rklzmWkw104 (ymgorffori)

Stori Paul a Richard

"Rydyn ni wedi dod yn deulu."

Mae Paul a Richard, efeilliaid a gefnogir gan Tina, un o ofalwr Cysylltu Bywydau yn siarad am golli eu gofalwr teuluol yn ystod y pandemig a'r trawsnewidaid yn sgil Cysylltu Bywydau. Heddiw, mae eu hiechyd meddwl a chorfforol yn well. Mae eu stori yn adlewyrchu'r ymddiriedaeth gydfuddiannol, cyfeillgarwch a phrofiadau a rennir sydd wrth wraidd Cysylltu Bywydau.

Gwyliwch stori Paul a Richard: https://youtu.be/AjWGs1q-yUk (ymgorffori)

 

Stori Rama, Rajia a Rizwana

Mae'r ffilm deimladwy hon yn dathlu teulu a chymuned. Mae Rama a Rajia yn gymdogion, ac mae'r ddwy yn agor eu cartrefi i gefnogi pobl. Maent yn rhannu eu profiadau ynghylch Cysylltu Bywydau a'r ffordd y mae'n creu cyfleoedd i bobl ffynnu wrth gynnal y cysylltiadau sydd bwysicaf iddynt.

"Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ofalwr, nid oes angen profiad blaenorol arnoch chi. Mae Cysylltu Bywydau yn darparu'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu angen arnoch."

Gwyliwch stori Rama, Rajia a Rizwana: https://youtu.be/t6X2gF3DaU8 (ymgorffori)

 

Stori Steve a Steven

"Mae dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau wedi newid fy mywyd er gwell."

Mae Steve, un o ofalwr Cysylltu Bywydau a Steven, yr unigolyn y mae'n ei gefnogi, yn dangos sut y mae Cysylltu Bywydau wedi'i seilio ar berthnasoedd bob dydd a phrofiadau a rennir. Mae eu stori yn tynnu sylw at werth cwmnïaeth, ymddiriedaeth ac anogaeth wrth helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau a mwynhau bywyd i'r eithaf.

Gwyliwch stori Steve a Steven: https://youtu.be/HbWh23GYP0Q (ymgorffori)

 

Stori Caroline

Mae Caroline, un o ofalwr Cysylltu Bywydau a chyn-ofalwr maeth yn cynnig persbectif personol ar y gwahaniaeth y gall Cysylltu Bywydau ei wneud. Bu’n cefnogi Alicia fel gofalwr maeth ers ei bod yn 6 oed a gyda'i gilydd maen nhw wedi trosglwyddo i Cysylltu Bywydau ac Alicia erbyn hyn yn oedolyn. Mae eu profiadau’n dangos yr hyder, y diogelwch a'r cyfleoedd a all dyfu o gael y gefnogaeth gywir o'ch cwmpas.

"Byddwn i'n ei argymell i unrhyw un; dyma'r peth gorau rydyn ni wedi'i wneud erioed."

Gwyliwch stori Caroline: https://www.youtube.com/watch?v=26bdicKVxp0N (ymgorffori)

 

Nikita – Cysylltu Bywydau ar gyfer pobl sydd yn byw ag afiechyd meddwl

"Mae gen i gymaint o sefydlogrwydd yma a diogelwch."

Mae stori Nikita yn adlewyrchu'r pŵer trawsnewidiol o gael ei gwerthfawrogi, ei chynnwys a'i chefnogi fel unigolyn sy'n mynd trwy wellhad o salwch meddwl. Mae ei thaith yn dangos sut mae Cysylltu Bywydau yn cefnogi pobl i ailadeiladu'r bywyd maen nhw ei eisiau yn dilyn argyfwng iechyd meddwl.

Gwyliwch stori Nikita: https://www.youtube.com/watch?v=auWBkPqUFz4 (ymgorffori)

 

Pŵer straeon go iawn

Mae'r ffilmiau hyn yn datgelu'r gwahaniaeth y gall rhannu bywyd cartref, teuluol a chymunedol ei wneud, boed hynny wrth ddatblygu annibyniaeth, adeiladu hyder, gwneud cysylltiadau newydd neu deimlo eich bod chi'n perthyn.

Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n ymwneud â chreu a rhannu'r ffilmiau hyn. Trwy adrodd eu straeon, maent yn helpu mwy o bobl i ddeall effaith Cysylltu Bywydau ac yn ysbrydoli eraill i ystyried dod yn ofalwyr, ceisio cymorth trwy Cysylltu Bywydau, neu ei hyrwyddo yn eu hardal leol eu hunain.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau ewch i www.startyoursharedlife.today  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni