Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhestr fawreddog o siaradwyr yn y 10fed gynhadledd dreftadaeth flynyddol
- Categorïau : Press Release
- 31 Ion 2020
Pwysigrwydd treftadaeth ddiwydiannol i economi’r dyfodol fydd un o’r themâu a drafodir gan restr fawreddog o siaradwyr y mis nesaf yn negfed Gynhadledd Dreftadaeth ac Adfywio Blynyddol Merthyr Tudful.
Bydd Nick Thomas-Symonds AS yn siarad am ei waith fel Cadeirydd Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Dreftadaeth Ddiwydiannol, tra bydd y digwyddiad ar 28 Chwefror yn gweld lansio llyfryn am fenywod Merthyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r byd – gan gynnwys swffragét a’r menywod a ymladdodd dros gyflog cyfartal yn Hoover.
Caiff cynrychiolwyr eu diweddaru hefyd ar gynlluniau i drawsnewid ardal treftadaeth Merthyr Tudful i fod yn ganolfan dreftadaeth o arwyddocâd rhyngwladol.
Mae’r gynhadledd, a gaiff ei threfnu ar y cyd gan Fforwm Treftadaeth Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn cael ei chynnal yng Nghlwb Pêl-droed Tref Merthyr a bydd y digwyddiad am ddim.
Mae AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds yn Gymrawd etholedig i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac mae e wedi ysgrifennu dau gofiant am wleidyddion Llafur sef Clement Attlee ac Aneurin Bevan, ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu cofiant am Harold Wilson.
Bydd yn siarad am ‘sut allwn ni gymryd y gorau oll o’n gorffennol i adeiladu economi’r dyfodol’, ac yn amlygu astudiaethau achos o bob rhan o’r DU, gan archwilio’r gwahanol fodelau a ddefnyddiwyd i wneud safleoedd yn gynaliadwy a’r rôl allweddol y gall cynghorau lleol ei chwarae yn y sector treftadaeth ddiwydiannol.
Bydd Cadeirydd y Fforwm Treftadaeth, Joe England yn edrych yn ôl ar ddatblygiadau treftadaeth ym Merthyr Tudful ers y gynhadledd gyntaf ddeng mlynedd yn ôl a hefyd yn trafod strategaeth Llywodraeth Cymru am ddatblygiad economaidd yn y cymoedd.
Bydd yr aelod etholedig benywaidd sydd wedi bod yn cyfredol gwasanaethu Merthyr Tudful hiraf sef y Cynghorydd Lisa Mytton, yn gwneud cyhoeddiad am gyhoeddi Torchbearers, sef llyfryn am fenywod arloesol Merthyr Tudful. Bydd y llyfryn yn cynnwys gwyddonydd arweiniol, bardd, swffragét, newyddiadurwraig wobrwyedig, dylunydd ffasiwn enwog, meddygon, hanesydd, a’r menywod a ymladdodd dros gyflog cyfartal yn Hoover.
Ymhlith y siaradwyr eraill bydd: Staff Amgueddfa Cyfarthfa, Ben Price a Chris Parry, yn siarad am waith allgymorth yr amgueddfa yn y gymuned; bydd Prif Weithredwr Interim y Cyngor Bwrdeistref Sirol Ellis Cooper, yn siarad am ‘Adfywio Merthyr Tudful’; a bydd Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, Carole-Anne Davies a’r ymgynghorydd Geraint Talfan Davies, yn datgan y diweddaraf am Gynllun Cyfarthfa.
Bydd y gynhadledd yn digwydd o 9am-3.30pm a bydd yn cynnwys cinio bwffe.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas fod y digwyddiad wedi denu amrywiaeth eang o siaradwyr dylanwadol dros y degawd diwethaf, ac nad oedd y digwyddiad pen-blwydd hwn yn eithriad.
“Mae’r gynhadledd yn uchafbwynt yn y calendr i bawb sydd â diddordeb mewn darganfod rhagor am ein hanes enwog ac ar yr un pryd mae’n cadw’n gyfredol â datblygiadau’r dyfodol a fydd o fudd i ni i gyd fel preswylwyr,” ychwanegodd.
• Er mwyn archebu lle ffoniwch 01685 727021 neu e-bostio conference@merthyr.gov.uk