Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prosiect i ddiogelu Comin hanesyddol a ‘hanfodol’ sy’n rhedeg drwy ddwy sir

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Awst 2020
Gelligaer Common

Mae partneriaeth a grëwyd i ddiogelu comin hanesyddol Comin Merthyr a Gelligaer wedi lansio cyfres o arfau ymgysylltu â’r cyhoedd â’r nod o annog pobl i barchu ‘ysgyfaint gwyrdd hanfodol y cymoedd’.

Mae Prosiect Tirwedd y Comin yn gweithio gyda Phartneriaeth Gelligaer a Merthyr, a sefydlwyd yn 2019 i ddod â’r canlynol ynghyd: tirfeddianwyr, porwyr, cyrff statudol a sefydliadau allweddol i fynd i’r afael â, ac archwilio’r cyfleoedd sy’n effeithio ar y Comin.

Mae gwefan newydd ar gael www.gmcommon.org, taflen wybodaeth, cyfrif Twitter a thudalen Facebook, yr oll wedi eu hanelu at addysgu a chodi proffil y comin.

Yn ddiweddar bu staff y Prosiect ac aelodau o Dîm Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn cyflenwi taflenni i Fedlinog sydd ar y ffin â’r comin, gan esbonio i aelodau o’r cyhoedd beth yn union yw ystyr tir comin a’r hyn maen nhw’n cael ei wneud arno. Caiff digwyddiadau gollwng taflenni pellach eu cynllunio drwy gydol weddill yr haf.

“Mae’r daflen yn esbonio sut y mae’r Comin yn hanfodol ar gyfer cefnogi’r amaethyddiaeth leol a’r gymuned wledig ac y mae’n gartref i ddigonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys y Barcud eiconig a’r Gornchwiglen sydd o dan fygythiad,” dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor Bwrdeistref Sirol dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Yn anffodus, y mae’n wynebu lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif o bobl, sy’n cael effaith groes. Nod y prosiect hwn yw helpu i ddiogelu’r Comin drwy ddilyn y rheolau a’r hawliau sy’n gysylltiedig â’r tir comin nad yw pawb yn ymwybodol ohono.”

Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a pharch wedi arwain at weithgareddau anghyfreithlon fel gyrru oddi ar y ffordd gan beri erydiad, amharu ar fywyd gwyllt ac anafu anifeiliaid; pori anghyfreithlon a gadael ceffylau a merlod; peidio â rhoi cŵn ar dennyn fel eu bod yn amharu ar adar sy’n nythu ar y ddaear a da byw eraill; tipio anghyfreithlon a gollwng sbwriel; ymosodiadau llosgi bwriadol a ‘throsedd treftadaeth’ - targedu’r amgylchedd hanesyddol fel safleoedd archeolegol, eglwysi a chestyll drwy ddifrod troseddol, llosgi bwriadol, cloddiad anghyfreithlon, chwilio am fetel yn anghyfreithlon (sef  ‘night-hawking’), neu ddifrod i gerbydau.

Tirwedd uwchdirol yw Comin Gelligaer a Merthyr sy’n 3,000-hectar (30 km sgwâr) ac a rennir rhwng cynghorau bwrdeistref Merthyr Tudful a Chaerffili ac sy’n cynnwys tri chribyn ac ardal i’r gogledd o ffordd Blaenau’r Cymoedd. Mae’n dirlun hanesyddol dynodedig gan Cadw yn sgil tystiolaeth bod y tir wedi ei ddefnyddio ers cyfnod cyn hanes hyd at y gorffennol diweddar. 

Ffermwyr yw’r cominwyr fel arfer, ac maen nhw wedi cofrestru i gael Hawliau’r Comin sy’n eu caniatáu i bori eu hanifeiliaid. Mae holl dir comin Cymru a Lloegr yn cael ei ystyried i fod â ‘mynediad agored’ i aelodau o’r cyhoedd.

Dywedodd Ceidwad y Comin, Mark Ward: “Mae’r Comin yn dirlun ysblennydd - yn ysgyfaint gwyrdd hanfodol i’r cymoedd. Ag iddo 3,000 hectar, mae helaethrwydd maith y tir hwn yn chwarae ei ran yn y cylchoedd dŵr a charbon sy’n siapio a chefnogi ein bywydau bob dydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Mae’r Comin yn golygu gymaint i gynifer o bobl. I rai mae’n ardal i bori anifeiliaid, i eraill mae’n wagle agored ar gyfer iechyd a llesiant. Mae rhai yn mwynhau’r fioamrywiaeth gyfoethog a’r asedau hanesyddol, tra bo eraill yn mwynhau’r olygfa ar eu taith i’r gwaith.

“Mae parchu’r Comin, ei drysori a’i reoli mewn modd cynaliadwy i’w drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol yn gyfrifoldeb ar bawb, a’n gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn helpu pobl i wireddu hynny.”  

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru-Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni