Ar-lein, Mae'n arbed amser
'Cynghorau Balch' i fynychu ‘Pride Cymru’ y penwythnos hwn
- Categorïau : Press Release
- 16 Meh 2023
Bydd cynghorau o bob cwr o Dde a Chanolbarth Cymru yn dod at ei gilydd ddydd Sadwrn hyn i gymryd rhan yng ngorymdaith flynyddol Pride Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r orymdaith yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ffordd sy’n wledd i’r llygaid. Fel arfer mae tua 10,000 o bobl yn cymryd rhan yn yr orymdaith, sy’n filltir o hyd ac yn teithio trwy strydoedd y brifddinas.
Eleni, bydd yr orymdaith yn dechrau ar Stryd y Castell am 11.00am cyn ymlwybro i lawr Heol Fawr a Heol Eglwys Fair, ar hyd Lôn y Felin a thrwy’r Aes. Yna bydd yn troi i lawr Heol y Frenhines, arno i Blas y Parc ac yn olaf Heol y Brodyr Llwydion, cyn gorffen ar Ffordd y Brenin.
Gall unrhyw un leinio’r strydoedd i wylio’r orymdaith am ddim. Mae Pride Cymru hefyd yn darparu adloniant trwy gydol y penwythnos ac mae gwybodaeth am yr adloniant a’r tocynnau ar www.pridecymru.com
Mae ‘Cynghorau Balch’ yn rhwydwaith o awdurdodau lleol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod llywodraeth leol yng Nghymru yn gyfaill amlwg i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Pobl sy’n Cwestiynu a Mwy (LGBTQ+) ac yn chwarae ei rhan wrth gynnal hawliau pobl LGBTQ+.
Fel aelod o’r rhwydwaith, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant pobl LGBTQ+ yn ei weithluoedd a’i gymunedau mewn ffordd weithgar.