Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymgynghoriad cyhoeddus am gynlluniau i ailagor Twnnel Abernant i Ferthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 21 Ion 2020

Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ofyn i bobl sy’n byw ym Merthyr Tudful a Chwm Cynnon am eu barn am gynlluniau i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y ddau gwm.
Gofynnir am farn preswylwyr am wasanaethau bysiau a llwybrau Teithio Llesol sy’n fwy uniongyrchol a diogel, fel ailagor Twnnel o Abernant i Ferthyr Tudful ar gyfer cerdded a seiclo.
Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gweithio ynghyd gyda’r nod o wneud y daith yn haws i bobl sy’n teithio rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful ar gyfer gwaith, addysg, siopa ac adloniant.
Mae’r cynllun yn ymwneud â gwella llwybrau ‘Teithio Llesol’, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cerdded a seiclo rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful. Ar hyn o bryd mae’r rhain wedi eu cyfyngu i saith milltir o briffordd sy’n cysylltu’r cymoedd, gyda rhai rhannau serth iawn a llawer iawn o draffig.
Mae Twnnel Abernant i Ferthyr Tudful yn 1.4 milltir o hyd ac mae’n hen dwnnel reilffordd segur a gaewyd ym 1962. Gallai’r twnnel gael ei hailagor at ddefnydd cerddwyr a seiclo, gan ddarparu taith gerdded a seiclo di-draffig ac uniongyrchol o ryw bedair milltir rhwng canol y ddwy dref, gan leihau’r daith gyfredol o ryw dair milltir.
Mae’r cyfnod ymgynghori’n rhedeg o 21 Ionawr tan 18 Chwefror. Mae holiadur ar gael ar-lein a chaiff digwyddiadau ymgynghori eu cynnal mewn lleoliadau yn y ddwy dref.